Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 02/04/2020

Bryn Terfel, Dr Radha Nair Roberts , Gweithio o adre , y band "Sain Cofio"

"Mae Bryn Terfel wedi gorfod canslo misoedd o gyngherddau ar 么l iddo fe gael damwain yn Bilbao. Dyma Bryn yn siarad gyda Shan Cothi ac yn s么n am sut digwyddodd y ddamwain ac am yr help mae e'n ei gael i wella."

Bore Cothi - Bryn Terfel
llithro ar bafin - to slip on a pavement
gohirio - to postpone
pigwrn - ankle
ar y trywydd cywir - on the right track
amser brawychus - frightening times
fy nghalon i'n gwaedu - my heart bleeds
heriol tu hwnt - extremely challenging
cymeradwyaeth - applause
bagl - crutch
yn ganiataol - for granted

"Bryn Terfel oedd hwnna'n sgwrsio gyda Shan Cothi. Dydd Sadwrn, Sion Tomos Owen o Dreorci oedd yn trio gwneud i Geraint, Elan a holl wrandawyr Radio Cymru chwerthin yn y slot 'Munud i Chwerthin' gyda stori am ei fam-gu"

Y Sioe Sadwrn - Munud i Chwerthin
paratoi - to prepare
sa i 'di bod - dw i ddim yn gwybod
mam-gu - nain
rhy barchus - too repectable
chwydu - to vomit
tad-cu - taid

"Dwy stori ddoniol yn fa'na am fam-gu Sion Tomos Owen. Mae'r Dr Radha Nair Roberts yn dod o Singapore yn wreiddiol, ond yn byw yng Nghymru erbyn hyn. Mae hi'r rhugl mewn sawl iaith, gan gynnwys y Gymraeg. Hi oedd gwestai Beti George wythnos diwertha a dyma hi'n esbonio wrth Beti pam ei bod hi'n meddwl bod dysgu ieithoedd yn bwysig.."

Beti A鈥檌 Phobol - Dr Radha Nair Roberts
diwylliant - culture
mabwysiedig - adopted
gwerthfawr - valuable
ymdrech - effort
cyfoethog - rich
ieithydd - linguist
yn gymharol - relatively
amddiffynol - defensive
dwlu ar - hoffi yn fawr
ymenydd - brain

"Dr Radha Nair Roberts wedi dysgu Cymraeg yn wych ac yn sgwrsio yn fan'na gyda Beti George. Os dych chi'n hunan ynysu neu'n gweithio o gartre, beth dych chi'n wneud gyda'ch amser sb芒r? Gwylio ffimiau mae Tudur Owen yn ei wneud a dyma fe'n sgwrsio gyda Dyl Mei a Manon am y ffilmiau buodd e'n eu gwylio wythnos diwetha..."

Tudur Owen - Ffilmiau

hunan ynysu - to self isolate
dychmygu - imagine
arswyd - horror
gwirioneddol - really
y gweddill - the rest
wedi heneiddio - has grown older
ngwas i - poor dab

"Os dych chi'n gweithio o adre ella na fydd llawer o amser gyda chi i wylio ffilmiau un wahanol iawn i Tudur Owen. Gyda chymaint o bobl yn defnyddio wi-fi er mwyn gweithio gartre mae'n si诺r bydd cyflymder y wifi yn arafu. Sut mae osgoi hyn? Dyma i chi gynghorion Megan Davies ..."

Dros Ginio - Gweithio o adre
cynghorion - tips
cyswllt band eang - broadband connection
rhwydwaith - network
dan ei sang - overstretched
ar y gorwel - on the horizon
ff么n daeraol - landline
popdy meicrodon - microwave oven
diwifr - wireless
sain - sound
lleihau - to reduce

"Tips Megan Davies oedd y rheina ar sut i gadw'r wifi yn gyflym tra'n gweeithio o adre. Un ffordd o gadw'n brysur yn y cyfnod anodd hwn ydy sgwennu caneuon. Dyna mae'r band Sain Cofio wedi ei wneud. Ond nid band cyffredin yw hwn. Tri aelod sydd i'r band - Yncl Gruff, Deio a Casi. Wyth oed ydy Deio a dim ond chwech ydy Casi. Dyma'r ddau yn sgwrsio gyda Dafydd a Lisa ar Radio Cymru 2 "

Dafydd a Lisa Radio Cymru 2 - Sain Cofio
triawd - trio
cyfansoddi - to compose
nain - mamgu
colli dant - to lose a tooth
seren - star

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 大象传媒 Radio Cymru,

Podlediad