Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 30ain o Ebrill

Cerddoriaeth,Meilir Rhys Williams, Jonathan Davies,Drymiau, Dartiau a theithio mewn bws

S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …

Recordiau Rhys Mwyn
Llun 20/04/20
Heledd Watkins

"Mae clipiau'r wythnos hon i gyd yn sôn am sut mae gwahanol bobl yn ymdopi gyda'r sefyllfa anodd sydd wedi codi oherwydd Covid-19. Dyma Heledd Watkins o'r band HMS Morris yn dweud ar ba gerddoriaeth mae hi'n gwrando yn ystod y cyfnod yma..."

ymdopi - to cope
profiadau cerddorol - musical experiences
gwyllt a gwallgof - wild and mad
llwyth - loads
droeon - several times
yn benodol - specifically
syllu - staring
gorfeddwl - overthinking
cynrychioli - to represent
trefnu - arrange

Sioe Frecwast
"Sul – 19/04/20
Meilir Rhys Williams

".Nesa, sut dach chi'n cadw'n brysur yn y cyfnod anodd yma - garddio, coginio, gwrando ar Radio Cymru? Ar y Sioe Frecwast dydd Llun clywon ni sut oedd yr actor Meilir Rhys Williams o Rownd a Rownd yn cadw ei hun yn brysur..."

paratoi - to prepare
gwreiddio - to root
pobi - to bake
gwyddbwyll - chess
yn fras - broadly
ffyn - sticks
andros o hwyl - lots of fun

Sioe Frecwast Daf a Caryl
"Iau 23/04/20"
Owain Wyn Evans

Owain Wyn Evans ydy 'dyn tywydd' ´óÏó´«Ã½ North West Tonight, ond mae e, fel llawer ohonon ni, yn gorfod gweithio o gartre y dyddiau hyn. Cafodd llawer o wylwyr y rhaglen sioc wythnos diwetha wrth i Wyn orffen sôn am y tywydd a rhedeg at ei ddrymiau a'u chwarae'n fyw ac yn wyllt ar y teledu. Mae miloedd o bobl wedi gweld y clip ohono yn gwneud hyn a chafodd Daf a Caryl sgwrs gyda fe fore Iau am y digwyddiad

alla i ddychmygu - I can imagine
y blaned Mawrth - The planet Mars
gwefannau cymdeithasol - social media
dim clem - no idea
cyflwynydd - presenter
ysbrydoli - to inspire
rhagolygon - forecast
unigryw - unique
anhygoel - incredible

Geraint Lloyd
Llun 20/04
Dartiau Facetime

"Ffordd wahanol iawn sy gyda Llion Thomas i gadw ei hun yn brysur dros y cyfnod yma. Dartiau ydy hobi Llion a 'sech chi'n meddwl basai'n anodd iawn cael gêm dartiau yn erbyn rhywun arall y dyddiau hyn. Ond mae Llion wedi ffeindio ffordd i wneud hynny, fel buodd e'n esbonio wrth Geraint Lloyd."

yndw 'chan - ydw, fachgen
taflu - to throw
ble bynnag - wherever
gormod - too much
cystadlaethau mawr - big competitions

Bore Cothi
Llun 20/04/20
"John Williams"

"Mae'n bywyd pob un ohonon ni wedi newid gyda'r argyfwng yma on'd dyw e? Ond mae bywyd John Williams o Abergele wedi newid yn llwyr. Mae John yn colli ei olwg oherwydd Glaucoma, ond dyw e ddim yn hollol ddall. Cyn mis Mawrth eleni ei hoff ffordd o dreulio amser oedd teithio o gwmpas Prydain ar y bws neu ar y tren. Mae hynny wrth gwrs wedi stopio am nawr ond dyma John yn sôn wrth Shan Cothi am ei deithiau cyn y cyfyngiadau...
"
argyfwng - crisis
coll ei olwg - losing his sight
y cyfyngiadau - the lockdown
hollol ddall - totally blind
waeth heb â gofidio - there's no point worrying
gwneud yn fawr ohono - to make the most of it
teimlo'n gaeth - feeling confined
cyffredin - normal
gweddill y ffordd - the rest of the way
ucheldiroedd - highlands

Bore Cothi
Gwener 24/04/20
Jonathan Davies

"Er nad ydy'r cyn chwaraewr rygbi Jonathon Davies yn gallu codi arian i'w hoff elusen - Ysbyty Felindre Caedrydd, mae o'n dal i gadw'n heini a chodi arian yr un pryd - a hynny"

ti byth yn llonydd - you're never still
egni - energy
mo'yn - eisiau
cynnal yr elusennau - support the charities
llywydd - president
hashnod - hashtag
colli chydig bach o chwys - shed a little sweat
yr un mor dynn - as tight
pwysau - weight

... a dyna ni am yr wythnos yma. Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau'r podlediad yma a'i fod wedi bod yn ddefnyddiol ac yn ddifyr i chi. Mae tudalen eirfa arbennig yn cyd-fynd a'r podlediad yma i'w chael ar bbc.co.uk/radiocymru/ a chlicio ar Pigion.

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

19 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad