Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 12fed 2020

Lowri Morgan, Penblwydd Hapus Bryn Williams, Non Roberts, Dylan Ebenezer ac Ifor ap Glyn

LOWRI MORGAN A DANIEL GLYN

Hanes Lowri Morgan yn teithio dwy awr i waelod Môr Iwerydd mewn llong danfor, er mwyn gweld y Titanic. Mae Lowri wedi cael sawl antur yn ystod ei bywyd ac mae wedi sgwennu amdanyn nhw yn ei llyfr newydd ‘Beyond Limits’ . Dyma hi’n sôn wrth Daniel Glyn sut oedd hi’n teimlo wrth weld y Titanic…

Môr Iwerydd The Atlantic Ocean

Llong danfor Submarine

Yn gwmws Exactlly

Ei cholli hi Losing it (mentally)

Lleddfu To soothe

Cwympo To fall

Ymchwil Research

Pa mor glou How quickly

Sylweddoli To realise

Cymaint o fraint How much of a privilege

Carreg fedd Tombstone

NON ROBERTS

Mae hi’n adeg cneifio ar ein ffermydd ac mae llawer o bobl ifanc drwy Gymru yn mynd o amgylch ffermydd i helpu gyda ‘r gwaith. Dyma Non Roberts, merch fferm o Dalyllychau, Caerfyrddin, a myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn sôn wrth Terwyn Davies am sut mae hi a’i ffrindiau’n helpu’r cneifio drwy lapio gwlân i bobl leol…

Profiadadau Experiences

Cneifio Sheering

Myfyrwraig Student (female)

Lapio To wrap

Cwrdd To meet

Gynnau Just now

Clymu sachau Tying sacks

Gwinio (gwnïo) Stichting

BRYN WILLIAMS A DEWI LLWYD

Y cogydd proffesiynol Bryn Williams oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd wythnos diwetha. Mae gan Bryn ddau fwyty yn Llundain ac un ym Mae Colwyn – Porth Eirias. Dyma i chi flas (sori eto) ar y sgwrs...

Cogydd Chef

Wedi’i hen sefydlu Well established

Bwydlen Menu

Gweini To serve

O safon Of quality

IFOR AP GLYN - Y GYMRAEG MEWN 50 GAIR

Yn y clip nesa cawn ni glywed Ifor ap Glyn yn trafod y gair ‘gwynt’. Gair pwysig iawn i forwyr ers talwm ac mae hynny wedi effeithio ar y ffordd dyn ni’n defnyddio’r gair heddiw. Dyma Ifor yn esbonio…

Yr hen forwyr gynt The ancient mariners

Iaith lafar Oral language

Wedi gostegu’n ddi-rybudd Had quelled without warning

Darogan To forecast

Ceiliog y Gwynt Weather vane.

Y Gwyddel The Irishman

Y meirw The dead

Ffroen yr ych The oxen’s nostril

Cyswllt newydd New context

Ar fin digwydd About to happen

HANES MARY HOPKIN

Roedd Mary Hopkin yn seren y byd pop Cymraeg a Saesneg yn niwedd y chwedegau ac yn ystod y saithdegau. Hi oedd un o’r artistiaid cynta i gael recordio ar label Apple ac roedd Paul McCartney yn sgwennu caneuon yn arbennig iddi hi. Roedd y cyfarwyddwr teledu Eurof Williams yn cofio Mary yn canu yn y capel ym Mhontardawe pan oedd hi’n ifanc. Erbyn hyn mae e wedi gwneud rhaglen deledu amdani hi, a buodd e’n sôn ar raglen Rhys Mwyn nad oedd hynny’n beth hawdd iawn i’w wneud

Cyfarwyddwr Director

Cyfres Series

Annibynwyr Independants

Eisoes Already

Awyddus Keen

Dychmygu To imagine

Yn ddiweddarach Later on

Hir a llafurus Long and laborious

Atgofion Memories

Si Rumour

DYLAN EBENEZER

Dylan Ebenezer, cyflwynydd y gyfres newydd – Ynys yr Hunan Ynyswyr, oedd gwestai Caryl a Daf ddydd Mercher a chafodd y ddau gyfle i holi Dylan am ei brofiadau ynysu ei hunan. Yn y clip yma cawn glywed sut mae Dylan yn cadw’n heini a beth mae e’n ei ddarllen yn ystod y cyfnod clo..

.
Hunan ynyswyr Self-isolators

Y cyfnod clo The lockdown

Anadlu’n ddwfn To breathe deeply

Gollwng stêm To let off steam

Llwyth Loads

Cymeriad adnabyddus A famous character

Etifeddu To inherit

Rhyfeddol Amazing

Wedi mwynhau mas draw Really enjoyed

Cyfrannu To contribute

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad