Main content

Emyr Davies - Bardd y Mis

Does dim drwg nad yw’n dda i rywun

Mae’r byd yn llawn gofidie
Ond wir, yn oes y pla
Mae’n rhaid i fi gyfadde
Y daeth ’na bethau da.

Mae’r ardd yn cael ei thrimo
A’r lawnt yw’r orau’n bod,
A’r gath yn derbyn maldod
Na cha’th y gath erio’d.

Rwy’n hala llai ar betrol
A llai ar fwyd i’r tŷ;
Mae wedyn mwy i’w hala
Ar gwrw bach… neu dri.

Mae’n dawel heb ymwelwyr
Yng Nghymru ar eu taith,
A’i golygfeydd godidog
(Na cha’i mo’u gweld nhw ’chwaith).

I gynnal sgwrs â’r teulu
Mae’n dda fod Zoom i’w gael;
Ca’i ddweud, ar ôl cael digon,
‘Mae’r lein yn bzzt yn wael…’

Rwy’n trio’r holl rysetiau
Y bydda i’u hangen byth,
A gwell na Mary Berry
Yw pwdin Delia Smith.

Mae cyfle cadw’n heini
Drwy’r we y maen nhw’n dweud;
Un peth yw cael y cyfle,
Peth arall ydyw gwneud.

Os byth y bydda i’n unig
A’r ysbryd yn y ffos,
Ca’i gwmni Radio Cymru
O fore gwyn tan nos.

Emyr Davies

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o