C'mon Cymru
C鈥檓on Cymru
(cyn gemau Cynghrair y Cenhedloedd, Medi 2020)
Gwyliais fy ngwlad o bell
sawl tro cyn hyn:
- yn alltud gwaith,
mewn pybs anghyfiaith,
anghymunedol;
neu鈥檔 soffa-warchod 鈥榤hlantos n么l-a-mlaen,
a鈥檜 synnu gyda 鈥榥gweiddi ofer ar y sgr卯n,
a鈥檙 rhychu carped ar fy nwy benglin
wrth ewyllysio g么l!
Tro hwn, 鈥榬un faciwm
sy鈥檔 ein gwahodd, un ac oll...
O bell, clustfeiniwn ar y sgwrs ar gae
sy鈥檔 tystio fod ein gobaith yn parhau,
ac un ar ddeg yn gwadu nad 欧m ni鈥檔
rhy fach, rhy dlawd, rhy dwp, i hawlio鈥檔 lle.
A dygwn hynny n么l o鈥檙 stadiwm wag
i bob cynefin, cario鈥檙 sgwrs ymlaen:
cans onid llesol i bob enaid coch cyt没n,
gael bod yn rhan o Gymru
sydd yn fwy na fo ei hun?
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Dewi Llwyd ar Fore Sul
-
Mike Parker - Gwestai penblwydd
Hyd: 21:06
-
Sian Gwenllian - gwestai gwleidyddol
Hyd: 14:02
-
Bethan Sayed - gwestai pen-blwydd
Hyd: 22:51
-
Jeremy Miles - gwestai gwleidyddol
Hyd: 15:03