Annwyl Ddyddiadur gan Ifor ap Glyn
Wedi’i eni a’i fagu yn un o Gymry Llundain, mae Ifor ap Glyn yn fardd, cyflwynydd, cyfarwyddwr ac yn gynhyrchydd sydd wedi ennill nifer helaeth o wobrau yn y meysydd amrywiol hyn.
Mae’n Brifardd sydd wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith – y tro cyntaf yn 1999 ac yn fwyaf diweddar yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2013.
Ifor oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2008 – 2009.
Mae Ifor yn byw yng Nghaernarfon ac yn gweithio i Cwmni Da – cwmni cynhyrchu teledu a ffilm annibynnol y bu’n rhan o’i sefydlu.
Mae wedi ennill sawl gwobr BAFTA Cymru am ei waith gan gynnwys y cyfresi Lleisiau’r Rhyfel Mawr a Popeth yn Gymraeg.
Bardd Cenedlaethol Cymru presennol. Yn ystod ei gyfnod yn y rôl, mae Ifor wedi camu ar lwyfannau amrywiol ar draws y byd gan berfformio mewn gwyliau a digwyddiadau, o Fôn i Fynwy, o Tsieina i Wlad Pwyl ac o Gamerŵn i Iwerddon.