Main content

Pigion y Dysgwyr 27ain Tachwedd 2020

Richard Holt, Chris Evans, Robert Joseph Holt, a Jenny Ogwen yn trafod Cliff Richards

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …

JENI OGWEN - IFAN EVANS
...beth dych chi’n feddwl sy’n gyffredin rhwng Jenny Ogwen, oedd yn arfer cyflwyno rhaglenni teledu Cymraeg, ac Ifan Evans? Wel mae’r ddau â stori i’w dweud am Cliff Richards! Dyma i chi flas ar eu sgwrs nhw ar raglen Ifan...

Llofnod - Autograph

Diawch - Goodness (an exclamation)

Naill ai - Either

Ar bwys - Near to

Paid sôn - You don’t say

Gwaetha’r modd - Unfortunately

Trefdraeth - Newport (Pembrokeshire)

Nefolaidd - Heavenly

So ti - Dwyt ti ddim

Mor gaeth - So restricted

ALED HUGHES - SIOE FRECWAST HUW STEPHENS
Jenny Ogwen yn fan’na yn sôn am Cliff Richards ac am Ynys y Barri ar raglen Ifan Evans. Aled Hughes oedd yn ateb cwestiynau Cocadwdl-do Huw Stephens wythnos diwetha – dyma i chi gyfle i glywed rhai o gyfrinachau Aled…

Cyfrinachau - Secrets

Ysgwydd - Shoulder

Cwlwm - Knot

Llwyth - Tribe

Eu hadnabod nhw - To know them

Ar faes y gad - On the battlefield

Rhwyfo - To row (a boat)

Parch - Respect

Yr un pryd - The same meal

RICH HOLT - SIOE SADWRN DANIEL GLYN
Wel dyna ni’n cael gwybod am datŵs a thatws Aled yn fan’na! Mae‘r cogydd Richard Holt i’w weld ar S4C ar hyn o bryd yn y gyfres Anrhegion Melys Richard Holt, a fe wrth gwrs yw seren y sioe! Fe hefyd oedd gwestai arbennig Daniel Glyn fore Sadwrn a dyma Richard yn sôn ychydig am ei gefndir a’i waith.

Cefndir Background
Cerddoriaeth Music
Llygoden Ffrengig Rat
Cyfuniad Combination
Danteithion anhygoel Incredible delicacies
Pwysau Pressure
Newydd sbon Brand new

WRECSAM POST CYNTAF
..a chofiwch wylio Anrhegion Melys Richard Holt ar S4C i gael syniadau am gacennau blasus. Roedd yna ddathlu mawr yn Wrecsam wythnos diwetha wrth i’r newyddion dorri fod sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenny am brynu clwb pel-droed y dre. Cafodd Dylan Jones sgwrs am y newyddion hyn gyda Chris Evans, cadeirydd tafarn gymunedol Wrecsam, Saith Seren, ar Y Post Cyntaf…

Dioddef - To suffer

Gwireddu - To fulfil

Yn rheolaidd - Regularly

Boddi eu gofidiau - Drowning their sorrows

Wedi cryfhau - Has strengthened

Wedi cael ei ffrydio’n fyw - have been streamed live

Mentrau cymunedol - Community ventures

Byd-eang - Worldwide

Ymddiriedolaeth - Trust

Mewn bodolaeth - In existence

BETI A’I PHOBOL
...a phob lwc i glwb ac i dre Wrecsam gyda’r fenter newydd on’d ife? Mae cefndir teuluol Cymreig gan Robert Joseph Jones ond cafodd ei eni yn Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau ac mae o’n byw nawr yn nhalaith Efrog Newydd. Mae o wedi dysgu Cymraeg ac yn ei siarad yn rhugl fel clywon ni yn y sgwrs yma gyda Beti George

Unol Daleithiau - United States

Talaith Efrog Newydd - New York State

Etifeddiaeth Gymreig - Welsh heritage

Cyhoeddi - To publish

Tanysgrifio - To subscribe

Rhyfedd - Strange

Eglurhad - Explanation

GWENDA WATSON - ALED HUGHES
Mae Cymraeg gwych gan Robert Joseph Jones on’d oes, i feddwl mai o hen lyfr ‘Teach yourself Welsh’ ddysgodd o’r iaith. Mae Gwenda Watson newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 90ed. Treuliodd hi ran o’i phlentyndod yn byw ar Ynys Enlli a buodd hi’n sôn ychydig am ei phlentyndod ar yr ynys wrth Aled Hughes...

Pobl mewn oed - The elderly

Gweinidog - Minister

Cymorth - Help

Ynys anghysbell - Remote island

Atgofion - Memories

Nefoedd ar y ddaear - Heaven on earth

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad