Main content

Pigion y Dysgwyr 12fed Rhagfyr 2020

Connie Orff, Llion Jones, Cath Ayers, Cwmni Brownies Hafren, a John Gower ar Joe Strummer

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …

Daniel Glyn - Connie Orff
Y cymeriad drag – Connie Orff, neu Alun Saunders, oedd gwestai Daniel Glyn fore Sadwrn a buodd e’n sôn wrth Daniel am sut dechreuodd Alun berfformio fel y cymeriad ‘Connie Orff’……

Cymeriad - Character

Llwyfan - Stage

Cynulleidfa - Audience

Ffurfiau - Forms

Ysgol Glanaethwy - A Welsh language performance school

Geraint Lloyd - Llion Jones
Hanes y cymeriad drag ‘ Connie Orff’ yn fan’na ar raglen Daniel Glyn.
Mae hi wedi bod yn anodd gweudd llawer o bethau yn ystod y cyfnod clo, on’d yw hi? Ac un o’r pethau hynny yw priodi, fel clywon ni gan Llion Jones, sy’n athro Cymraeg, ac oedd wedi gorfod gohirio ei briodas ddwywaith yn ystod y cyfnod…

Gorfod gohirio - had to postpone

Y pedwerydd ar bymtheg - The 19th

Digwydd bod - As it happened

Bellach - By now

Gwas Priodas - Best man

Darlledu’n fyw - To broadcast live

Yn rhithiol - Virtually

Yn gorfforol - Physically

Dathliad - Celebration

Dros Ginio - Elinor Wyn Reynolds
Llongyfarchiadau i’r ddau ohonyn nhw a gobeithio cân nhw gyfle am ddathliad go iawn yn fuan on’d ife?
Faint ohonoch chi sy wedi darllen nofelau ‘Bridgette Jones’ neu wedi gweld y ffilmiau amei bywyd hi? Llawer ohonoch chi dw i’n siŵr. Wyddoch chi bod dau ddeg pump o flynyddoedd wedi bod ers i’r nofel gynta amdani gael ei chyhoeddi? Dyma glip o Jennifer Jones ac Elinor Wyn Reynolds ar Dros Ginio yn dathlu chwarter canrif y cymeriad Bridgette Jones a’i dyddiadur

Yn llythrennol - Literally

Yr oriau mân - The early hours

Mor hurt - So stupid

Arwrol - Heroic

Seinio cloch - Sounding a bell

Oedd yn taro deuddeg - Which struck a chord

Eitha diniwed - Quite innocent

Cyfryngau cymdeithasol - Social media

Bodoli - To exist

Mwyach - By now

Yn ddiweddarach - Later on

Aled Hughes - Cath Ayers
Os ydy Bridgette Jones yn dathlu chwarter canrif, mae Coronation Street dipyn ar y blaen ac ar fin dathlu 60 mlynedd. Mae Cath Ayres wedi actio yn y gyfres a buodd hi’n sôn wrth Aled Hughes am gwrdd a sêr y gyfres pan gafodd ni rôl yn yr opera sebon eiconig.

Enwog - Famous

Cyffredin - Ordinary

Golygfa - Scene

Yn gwmws - Exactly

Bore Cothi - Meinir Evans
Cath Ayres oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am ei phrofiadau’n action yn ‘Coronation Street’. Meinir Evans o gwmni Brownies Hathren oedd gwestai Bore Cothi fore Mawrth a gofynnodd Shan Cothi iddi hi beth oedd arwyddocâd yr enw ‘Hathren’ …

Arwyddocâd - Significance

Yn y gwaed - In the blood

Atgofion melys - Sweet memories

Aelwydydd amaethyddol - Agricultural homes

Tu fas - Outside

Llanw bola - Filling the stomachs

Cyndeidiau - Forefathers

Nant - Brook

Tarddu - To derive

Rhys Mwyn - John Gower
Ychydig o hanes cwmni Brownies Hathren yn fan’na ar Bore Cothi. Roedd ‘The Clash ‘ yn un o fandiau ‘pync’ cynta Prydain a buodd Joe Strummer, un o aelodau’r band, yn byw yng Nghasnewydd ar un adeg. Tybed oedd e’n berson gwyllt bryd hynny fel y rhan fwyaf o berfformwyr pync? John Gower fuodd yn sôn wrth Rhys Mwyn am y rocyr gwyllt pan oedd yn byw yng Nghymru…

Yn ei ugeiniau cynnar - In his early twenties

Cynhyrchu - To produce

Yn gyson - Regularly

Prif leisydd - Lead vocalist

Canu gwerin - Folk singing

Di-nod - Insignificant

Teyrngedu’r ffaith - Attributing the fact

Trychinebus - Disastrous

Darganfod - To discover

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

15 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad