Main content

Pigion y Dysgwyr 21ain Ionawr 2020

Dylan a Jên Ebenezer, Meic Stevens, Sophie Richards, a Harry Cole yn trafod Doctor Who

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …

AR Y MARC
Mae Luke Williams o Stafford wedi dechrau cyfrif Twitter, Pêl-droed 5 munud - @PD5Munud, i helpu pobl ddysgu Cymraeg – a hynny drwy ddefnyddio eu cariad tuag at bêl-droed. Cafodd Dylan Jones air gyda Luke ar Ar y Marc

Dechreuwr - Beginner

Canolradd - Intermediate

Parhau - To continue

Barnau - Opinions

Cyfle - Opportunity

Gwelliannau - Improvements

BYWYD YN HAWS
Blog Cymraeg i ddysgwyr sy’n licio pêl-droed – da iawn Luke - am syniad gwych. Hana Hopwood Griffiths oedd yn gofyn beth sy'n gwneud bywyd yn haws i Sophie Richards, ond am gyfnod doedd ei bywyd hi ddim yn hawdd o gwbl. Buodd Sophie am flynyddoedd yn diodde o boenau yn ei bol ac ar ei brest a doedd y meddygon ddim yn siŵr beth oedd yn bod arni hi. Yn y diwedd cafodd hi ddiagnosis ei bod hi’n diodde o’r cyflwr endometriosis ac mae hi erbyn hyn yn cynnal blog i helpu merched sy’n diodde o’r un cyflwr. Dyma Sophie’n dweud yr hanes…

Am gyfnod - For a period

Brest - Chest

Diodde(f) - Suffering

Cyflwr - Condition

Bant - I ffwrdd

Tyfu lan - Growing up

Oddi ar y triniaeth - since the treatment

COFIWCH DRYWERYN
Sophie Richards oedd honno, sy’n cynnal blog i helpu merched sy’n diodde o’r cyflwr endometriosis. Dw i’n siŵr eich bod wedi gweld y slogan ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ar hyd a lled Cymru ac ar sticeri ceir hefyd. Cafodd y slogan gwreiddiol ei beintio ar wal ar yr A487 ger Llanrhystud yng Ngheredigion ac ar Cofio yr wythnos diwetha cyfaddefodd yr academydd Meic Stephens wrth Beri George mai fe beintiodd y geiriau eiconig hynny yn y chwedegau a hynny pan oedd e’n dysgu Cymraeg…

Cyfaddefodd - Admitted

Y ddelwedd - The image

Darganfod - To discover

Ledled - Throughout

LISA GWILYM
Meic Stephens yn cyfadde anghofio’r treiglad meddwl wrth beintio slogan enwoca’r Gymraeg! Dych chi wedi gwneud addunedau blwyddyn newydd eleni, ac os felly dych chi wedi llwyddo i’w cadw nhw hyd yn hyn? Yn yr Ysgol Sul ar raglen Lisa Gwilym ddydd Sul – edrychodd hi’n ôl ar hanes traddodiad gwneud addunedau…

Addunedau Resolutions

Mynychu Attend

Cyhydnos y gwanwyn Spring Equinox

Sicrhau To ensure

Yn fwy tebygol More likely

Dyled Debt

(G)addo dychwelyd promise to return

Y Rhufeiniaid The Romans

Hynafol Ancient

Crefyddol Religous

Diwylliant Culture

Yn benodol iawn Very specific

DROS GINIO
Dyma i chi adduned blwyddyn newydd gwych- dwedwch wrth unrhyw ddysgwr dych chi’n ei nabod i wrando ar y podlediad hwn, ac ar bodlediadau Cymraeg eraill wrth gwrs! Mam a mab – Jên a Dylan Ebenezer oedd gwesteion Dau Cyn Dau Dewi Llwyd ar Dros Ginio. Mae Dylan a’i dad Lyn yn ffans mawr o dîm Arsenal, sut oedd hyn wedi effeithio ar ei bywyd fel teulu tybed?

Wedi gwirioni - Mad about

Agwedd - Attitude

Hunllef - Nightmare

Ei grud e - His cradle

Profiad poenus - A painful experience

Rhwydo - To ensnare

Gwadu - To deny

Gwarchod - To babysit

Dad-cu - Taid

Cyswllt - Connection

Brechlyn - Vaccine

TRYSTAN AC EMMA
Gobeithio bydd Jên fel sawl mam-gu, neu nain, yn cael gweld eu hwyrion yn y dyfodol agos on’d ife?
Dych chi’n ffan o Dr Who, beth ydy’ch barn chi o Jodie Whitaker fel y Doctor a phwy sech chi’n licio ei weld fel y Dr Who nesa? Dyma oedd barn y super-fan Harry Coles ar raglen Trystan ac Emma…

Cymuned enfawr - A huge community

Dilyniant - A following

Cyfres - Series

Sibrydion - Whispers

Camu mewn - To step in

Paid â dweud - You don’t say

Yn dy dyb di - In your opinion

Cymeriad - Character

Sirioldeb - Cheerfulness

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

15 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad