Main content

Pigion y Dysgwyr 29ain Ionawr 2020

Owain Tudur Jones, Rhys Meirion, Annes Elwy, a sut mae gwneud y paned orau?

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …

OWAIN TUDUR JONES
Y cyn bêl-droediwr Owain Tudur Jones oedd gwestai Lisa fore Sul. Enillodd Owain saith cap pêl-droed dros Gymru ac mae e nawr yn sylwebu ar gemau pêl-droed ar ran S4C. Ond am ei ddiddordeb mawr mewn dringo mynyddoedd Eryri buodd e’n sôn wrth Lisa. Dyma i chi flas ar y sgwrs…

Sylwebu - To commentate

Sbïo - Edrych

Gwerthfawrogi - To appreciate

Golygfeydd - Views

Her - A challenge

Curiad y galon - The heartbeat

Cynyddu - Increasing

Datblygu - Develops

Adnabyddus - Well known

Ysfa - Urge

Gofal biau hi - Take care

TRYSTAN AC EMMA
Owain Tudur Jones oedd hwnna’n sôn am ei hoffter o fynydda. Sut mae gwneud y baned berffaith? Dyma farn Eirlys Smith o Gaffi Paned Pinc yn Llangadfan ynm Mhowys ar raglen Trystan ac Emma…

Llaeth - Llefrith

Tywallt - To pour

Ymdrech - Effort

Llesol - Beneficial

Dail te - Tea leaves

Amgylchedd - Environment

Euog - Guilty

CLIP BWYD YN HAWS
Tebot a dail te amdani felly! Mae llawer iawn ohonon ni’n gweithio o’n cartrefi y dyddiau hyn, sydd yn gallu bod yn dipyn o her o dro i dro. Gofynnodd Hannah Hopwood Griffiths i’w gwrandawyr am gynghorion gweithio o gartre. Dyma oedd rhai o’u tips nhw!

Ardal penodol - A specific area

Yn llythrennol - Literally

Cymudo - To commute

Diffodd - To switch off

Yr holl synhwyrau - All the senses

Ar bwys - Wrth ymyl

Egni - Energy

Ddim yn tycio - Doesn’t succeed

TROI’R TIR
Digon o ‘dips’ yn fan’na ar sut i wneud gweithio o gartre’n fwy pleserus. Ar Troi’r Tir yr wythnos yma clywon ni hanes cwpwl o Sir Drefaldwyn sy'n ffermio ac yn tyfu madarch yn ardal Llanerfyl ym Mhowys. Dyma Gwenllian yn esbonio sut dechreuon nhw gyda’r fenter newydd

Madarch - Mushrooms

Prif Weithredwr - Chief Executive

Dirgelwch ac arbrawf - A mystery and experiment

Cyfeillgarwch - Friendship

Awyddus i arallgyfeirio - Eager to diversify

Madarch wystrys - Oyster mushrooms

Llwch llif - Sawdust

Ffwrn fawr ddiwydiannol - A large industrial oven

Cyfandirol - Continental

Perlysiau - Herbs

RHYS MEIRION
Hanes menter tyfu a gwerthu madarch yn fan’na ar Troi’r Tir. Bob bore Gwener ar RC2 mae Huw Stephens yn dod i nabod ei westeion drwy ofyn nifer o gwestiynau iddyn ac mae’n rhaid ateb y cwestiynau drwy ddweud ‘cocadwdl-ydw’ neu ‘cocadwdl-nac ydw’. Y canwr enwog Rhys Meirion oedd yn ateb y cwestiynau wythnos yma

Dychmygwch - Imagine

‘Sti - You know

CLIP ANNES POST CYNTAF
Rhys Meirion yn gwerthu hufen ia, pwy fasai’n meddwl? Does dim byd gwell ar benwythnos na chael brecwast llawn wedi ei goginio, a gwell byth os mai rhywun arall sydd wedi ei goginio fe. Yr actores Annes Elwy soniodd wrth Kate Crocket ar y Post Cynta sut mae hi wedi arallgyfeirio yn ystod y cyfnod clo drwy goginio brecwast a’i gludo i dai ei chwsmeriaid...

Cludo - To carry

Yn raddol bach - Gradually

Be yn y byd - What on earth

Yn dawel bach - Without much ado

Lledaenu - To spread

Yn y pendraw - In the end

Fy nghynnal i - Keeps me going

Gwahaniaethu - To distinguish

Bywoliaeth - Livelyhood

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad