Main content

Cerddi Gwneud Gwahaniaeth John Gwilym Jones a Tudur Dylan Jones.

Cerddi Gwneud Gwahaniaeth John Gwilym Jones a Tudur Dylan Jones.

Y Bachgen nawmlwydd anodd

Roedd Gareth y Ferwig yn anodd ei drin
Roedd bron bob diwrnod yn groes ac yn flin,
Fe heriai鈥檙 athrawes o hyd ac o hyd
Nes tynnai ef sylw y dosbarth i gyd.
Ni wyddai Miss Williams beth allai ei ddweud
Na beth ar y ddaear y gallai ei wneud;
Ond yna un dydd pan aeth pethau fel ffair
Gofynnodd i Gareth ddod ati am air.

Awr ginio鈥檔 y stafell fe safai yn syn.
Yr unig beth ddwedodd Miss Willams oedd hyn:
Rwy am iti ddeall un peth, meddai hi,
Os byth y bydd rhywbeth yn ofid i ti,
Gofynna amdanaf, ac fe fyddaf wrth law,
Fe wrandaf fi arnat, beth bynnag a ddaw.
Am allan yr aeth hi, a Gareth yn fud,
Ac allan aeth yntau yn gryndod i gyd.

Drannoeth y bore, roedd Gareth yn gwylio
Miss Willams yn cyrraedd yr iard, ac yn parcio.
Aeth ati yn betrus a dwedyd, wrth ddod,
"Pan ddwedsoch chi wrthyf, Miss Williams, eich bod
yn barod i wrando - unrhywbryd - arna'i:
Wel chi ydi'r cynta i ddweud hynny wrtha'i."
Ac yna鈥檌 athrawes a鈥檌 clywodd yn dwedyd,
"Mae'r hyn ddwedsoch ddoe wedi newid fy mywyd."
Ac wrth i Miss Willams fynd at dasgau y dydd
Roedd deigryn bach tawel i'w weld ar ei grudd.

John Gwilym Jones

Gwneud Gwahaniaeth

Pan fo鈥檙 storm weithau鈥檔 ormod,
pan na bydd ond poen yn bod,
i鈥檙 waedd bob amser a w锚l
ond d眉wch, iddi鈥檔 dawel
doed ryw awr, fel haul ar draeth,
i gynnes wneud gwahaniaeth.

Un gair, fel angor i gwch,
yn awr all greu tynerwch
hyd yr hwyr, nes dod 芒鈥檙 haf
draw ym merw鈥檙 storm arwaf;
s诺n un gair i鈥檙 un sy鈥檔 gaeth,
hynny all wneud gwahaniaeth.

Un llais, neu neu deimlo un llaw
yn dal, neu glywed alaw,
ac fel erioed, wrth oedi
gydag un cyt没n, fel ti,
fe ddaw鈥檙 gwell i faeddu鈥檙 gwaeth
芒 gw锚n sy鈥檔 gwneud gwahaniaeth.

Tudur Dylan Jones

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

10 o funudau