Main content

Gwion Hallam - Coch Coch Coch

Coch Coch Coch

(cerdd i raglen Ewro Marc wedi gêm gyfeillgar Albania)

Coch yw Connor, Bale a Ramsey
Coch yw Levitt, Ben a Harry
Coch yw Tyler, Rubin, Neco –
Ai ’mond y fo wnaeth drio sgorio?

Coch yw Rodon, Mepham, Lockyer,
Hennessy, Adam, Smith a Gunter,
Coch yw Ampadu a Rhys –
Llinell goch oedd James ar frys.

Coch yw Ward a Kieffer Moore,
Brooks, Cabango a’r ddau Joe,
Y mwya coch yw Joniesta –
Coch o’i draed hyd at ei glustia!

Ond coch r’un fath fydd Chris drws nesa,
Coch fydd nain a taid yn Bala,
Coch fydd Twm a Moi a Nedw,
Coch fydd Cymry da Penbedw.

Coch fel Bale fydd Bybs a Ric -
Coch wrth wylio ngardd y Fic,
Coch fydd pawb fel Joniesta
Coch ein cân a choch ein crysa’.

Eto – Gymry - byddwn goch,
Byddwn wal sy’n canu’n groch,
Ar y cae neu’n gwylio’n tŷ
Wal y crysa’ fyddwn ni.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o