Main content

David R Edwards

David R Edwards (23.6.21)

Gwaith bardd go wir
yw herio鈥檙 harddwch
hyll 芒鈥檌 g芒n,

byw i weld ein rhagrith rhwydd
a gweithio鈥檌 gerdd yn rheg
o鈥檙 galon bur.

Dave oedd prifardd gwir ein gwlad
a鈥檌 gerddi鈥檔 wreichion nos,
ei eiriau鈥檔 falm wrth losgi鈥檔 l芒n,
yn g芒n i Gymru gyfan.

DIM DEDDF, DIM EIDDO.
GWLAD AR FY NGHEFN.
Y TEIMLAD a MAES E.

Fe鈥檌 gwelaf nawr,
y llun o hyd fel codi bys at
nonsens gwag ein bod -

picnic iach mewn mynwent ddu,
gwledd ymhlith y beddau,
Dave yn fardd hyd f么n ei fysedd
hir.

Paid cysgu. Cana. Gad i鈥檛h eiriau
losgi ynom byth.

Gwion Hallam

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud