Main content

Pigion y Dysgwyr 2il Gorffennaf 2021

Myrddin ap Dafydd, Sion Hughes, Gav Murphy, a dysgu Cymraeg mewn naw mis

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …

GERAINT LLOYD
…mae Angharad Jones wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg i safon uchel iawn mewn dim ond naw mis. Dyma hi’n dweud wrth Geraint Lloyd pam aeth hi ati i ddysgu’r iaith…

Safon - Standard

Anghredadwy - Unbelievable

Ysbrydoliaeth - Inspiration

Yn falch - Proud

Is-deitlau - Subtitles

Cyfnod Allweddol - Key Stage

Drysau - Doors

Diwylliant - Culture

Cyfrifol - Responsible

Trosglwyddo’r iaith - Transferring the language

Y genedlaeth nesaf - The next generation

CATRIN ANGHARAD
Angharad Jones oedd honna, ac mae hi wedi gwneud yn wych i ddysgu Cymraeg mewn cyn lleied o amser on’d yw hi? Mae Catrin Angharad yn ôl ar Radio Cymru ar b’nawniau Sadwrn, ac yn ei rhaglen bydd hi’n rhoi cliwiau i’r gwrandawyr ddyfalu ble mae’r ‘cerddwr cudd’ am fynd am dro. Y tir chliw dydd Sadwrn oedd traeth, Brynach, a storm. Nawr ‘te mae Sant Brynach gyda chysylltiad ag ardal Trefdraeth yn Sir Benfro, tybed ydy hwnnw’n gliw da, a thybed pwy oedd y cerddwr cudd?

Cerddwr cudd - Secret Walker

Dyfalu - To guess

Yn wirioneddol - Truly

Rhaid i mi gyfaddef - I must admit

(Nid) nepell - Ddim yn bell

Tewhau - To fatten

Mas o dymor - Out of season

Hamddenol - Leisurely

Mewn dyfynodau - In quotation marks

TRYSTAN AC EMMA
Catrin Angharad oedd honna’n siarad gyda’r cerddwr cudd, ac on’d yw hi’n drueni mawr mai dim ond un siaradwr Cymraeg sy’n byw yn y pentre bach hyfryd hwnnw erbyn hyn? Dych chi’n yrrwr da a gofalus? Byddwch yn onest nawr! Wel, cafodd Trystan ac Emma air gyda’r hyfforddwr gyrru Iwan Williams i glywed pa mor dda ydy pobl Cymru gyda’i sgiliau gyrru…

Llawlyfr - Handbook

Hanfodol - Essential

Cadw rheolaeth - Keeping control

Derbyniol - Acceptable

Gaethon nhw wared ar - They got rid of

Cyflwyno - To introduce

LISA ANGHARAD
Wel mae’r prawf gyrru wedi newid dros y blynyddoedd on’d yw e?
Lisa Angharad oedd yn cyflwyno y Sioe Sadwrn yr wythnos hon a gofynnodd Trystan ab Owen iddi hi am ei diddordeb mewn planhigion, achos roedd gyda fe stori FAWR i’w dweud am brynu planhigion...

Cyn lleied - So little

Yn gyffredinol - Generally

ALED HUGHES
Wel yn wir, mae mwy o arian nag o synnwyr cyffredin gydag ambell un on’d oes?
Pan oedd Aled Hughes a Gav Murphy yn eu harddegau roedden nhw wrth eu boddau gyda gemau fideo. Buodd y ddau’n cael hwyl yn trafod gemau fideo retro yr 80 au a’r 90au ar raglen Aled, a dyma i chi eu barn ar un o gemau’r 80au – y Pac-Man

O’ch chi heb weld - You hadn’t seen

STIWDIO
Dydy Aled a Gav ddim yn ffans mawr o Pac-man felly! Yr wythnos yma ar Stwidio buodd Nia Roberts yn trafod ffuglen hanesyddol gyda dau awdur sef Sion Hughes a Myrddin ap Dafydd. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Ffuglen hanesyddol - Historical fiction

Wastad - Always

‘nhaid - ‘nhad-cu

O’n cwmpas ni - Around us

Penodau - Chapters

Annisgwyl - Unexpected

Beth sy’n fy nharo i - What strikes me

Yr ymchwil anorfod - The unavoidable research

Y chwilota - The searching

Cyffwrdd - To touch

Y cyffro cychwynnol - The initial excitement

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad