Main content

Pigion y Dysgwyr 9fed Gorffennaf 2020

Heledd Cynwal, Morgan Elwy, Euros Evans a hanes llun hanesyddol Catrin o Ferain

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma 鈥︹

SIOE FRECWAST
鈥n o gyflwynwyr gorau Cymru, Heledd Cynwa,l oedd gwestai Cocadwdl Caryl Parry Jones a Geraint Hardy yr wythnos 鈥榤a a dyma hi鈥檔 ateb cwestiwn am wyliau tramor鈥

Cyflwynwyr - Presenters

Prydfertha - The most beautiful

Digon teg - Fair enough

Mwya trawiadol - Most striking

Tempro - To air

O鈥檙 cyfryw wely - From the said bed

Nefoedd - Heaven

Oglau鈥檔 neis - Smelling nice

DANIEL GLYN
Pawb yn y stiwdio yn fan鈥檔a yn hiraethu am wyliau tramor, ond tybed fyddwn ni鈥檔 defnyddio arian digidol i dalu am ein gwyliau yn y dyfodol? Dych chi鈥檔 deall yn iawn beth yw arian crypto? Na? Doedd Dan Glyn ddim yn gwbod rhyw lawer chwaith, ond yn ffodus roedd ei westai, Euros Evans, yn gwybod y cyfan

Dylsa fi - Dylwn i

Pres - Arian

Ffydd - Faith

Cynhyrchu - To produce

Arian parod - Cash

Cyfalafiaeth - Capitalism

Cyfnod go ddrwg - Quite a bad period

LISA GWILYM
Wel dyna ni felly, mater o ffydd ydy鈥檙 arain crypto, ond cofiwch bod gwerth yr arian yma鈥檔 medru mynd i fyny neu mynd i lawr. Mae sawl swydd ddiddorol wedi bod gan y gyflwynrwaig Amanda Prothero Thomas, fel clywodd Lisa Gwilym ar ei rhaglen fore Sul

Trwydded - Licence

Delfrydol - Ideal

Euraidd - Golden

Anhygoel - Incredible

SHAN COTHI
A dyna hanes swydd ddiddorol Amanda Prothero Thomas yn Ynysoedd Cayman yn y Carib卯. Roedd Bob Marley 鈥 sy鈥檔 enwog am ei fiwsig reggae- yn dod o ynysoedd y Carib卯 ac mae Morgan Elwy yn ffan mawr o鈥檌 waith. Enillodd Morgan gystadleuaeth Can i Gymru eleni gyda鈥檌 g芒n reggae Bach o Hwne a soniodd Morgan wrth Shan Cothi am ddylanwad cerddoriaeth Bob Marley ac eraill ar ei fywyd ...

Dylanwad - Influence

Wastad - Always

Clod - Praise

Dau ddegawd - Two decades

Ysbrydoliaeth - Inspiration

O safon - Of quality

BETI GEORGE
Ac awn ni o ynysoedd y Carib卯, cartref reggae, i Ynys M么n cartref Llinos Medi Huws . Hi yw Arweinydd Cyngor Sir Ynys M么n - un o arweinwyr cyngor ifancaf Prydain a hi oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Gofynnodd Beti iddi pam aeth hi i鈥檙 byd gwleidyddol yn y lle cynta 鈥.

Y byd gwleidyddol - The political world

Dim bwriad o gwbl - No intention at all

Rhai unigolion - Some individuals

Aelod Cynulliad - Assembly Memeber

Tr茂o dwyn persw芒d arna i - Trying to persuade me

Hybu - To encourage

Difaru - To regret

Cyngor - Advice

Pleidleisio - To vote

Es i o鈥檌 chwmpas hi - I went about it

DEI TOMOS
Llinos Medi Huws oedd honna, Arweinydd Cyngor Sir Ynys M么n - Mam Cymru. Ac roedd Catrin o Ferain yn cael ei galw鈥檔 Fam Cymru yn ogystal achos bod ganddi deulu mor fawr. Mae llun enwog o Catrin yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, llun ohoni gyda鈥檌 llaw yn gorwedd ar benglog. Clywon ni ychydig o hanes y llun yma mewn sgwrs rhwng Dei Tomos a Helen Williams Ellis o Lasfryn ger Pwllheli. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Penglog - Skull

Wedi hudo - Had lured

Unswydd - Of one purpose

Datgelu - To reveal

Ym meddiant - In the possession of

Amgueddfa - Museum

Yn gyfarwydd 芒 - Familiar with

Gwys - Summons

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

14 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 大象传媒 Radio Cymru,

Podlediad