Pigion y Dysgwyr 17eg Medi 2021
Gruffudd Eifion Owen, Heledd Anna, a Neil Rosser a Betsan Haf Evans yn trafod Pwdin Reis.
S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
BORE COTHI
Mae Gruffudd Eifion Owen yn Brifardd, hynny yw rhywun sy wedi ennill un ai’r gadair neu’r goron yn yr Eistedfod Genedlaethol, ond ddim am farddoniaeth oedd e’n sgwrsio gyda Shan Cothi, ond yn hytrach am synhwyrau. Tybed beth yw hoff flas a lliw y bardd o Ben Llŷn?
Barddoniaeth Poetry
Ond yn hytrach But rather
Synhwyrau Senses
Oes tad Goodness, yes
Chwalu To demolish
Balm i’r enaid Balm to the soul
Ysgubol Sweeping
Cynnil Subtle
ALED HUGHES
Y Prifardd Gruffudd Eifion Owen oedd hwnna’n sôn am ei hoff liwiau a’i hoff flasau ar Bore Cothi, ac yn sôn am liwiau anhygoel yr aderyn Coch y Berllan. Wel Coch yr Old Trafford gafodd sylw ym myd chwaraeon dros y penwythnos gyda Ronaldo’n dod yn ôl i Manchester United, ac yn sgorio dwy gôl yn ei gêm gynta. Mae Ronaldo wedi cael dylanwad enfawr ar beldroedwyr eraill, gan gynnwys Katie Midwinter o dim pêl-droed Merched Bethel.
Dylanwad enfawr A huge influence
Arwr Hero
Oni bai am Were it not for
Ysbrydoli To inspire
Wedi mopio efo Wedi dwlu ar
Yn y gwaed In the blood
Efelychu To emulate
Prif gynghreiriau Main leagues
Syfrdanol Stunning
Ystadegau Statistics
DROS GINIO
Ac i aros yn myd chwaraeon, mae Heledd Anna yn rhan o dîm chwaraeon y ´óÏó´«Ã½ a Heledd a’i thad Dafydd Roberts oedd gwestai Dau Cyn Dau ar Dros Ginio wythnos diwetha. Mae Dafydd wedi bod yn perfformio gyda’r grŵp Ar Log ers y saithdegau ac mae’r teulu i gyd gyda diddordeb mewn ceddoriaeth fel clywodd Iolo ap Dafydd. Ond pa mor gerddorol ydy Heledd tybed?
Edmygu To admire
Rhinweddau Virtues
Parodrwydd i fentro Willingness to venture
Meddylgar Thoughtful
Brwdfrydedd Enthusiasm
Difaru To regret
RHYS MWYN
Dafydd Roberts yn fan’na wedi perfformio gydag Ar Log ers y saithdegau, ond ers yr wythdegau mae Neil Rosser yn perfformio ac mae e dal wrthi, y tro ‘ma gyda band rocabili o’r enw Pwdin Reis. Prif gantores y band ydy Betsan Haf Evans a dyma hi a Neil yn sôn wrth Rhys Mwyn am beth sy wedi dylanwadu ar eu cerddoriaeth...
Dylanwadu To influence
Menywod Merched
Hygrydedd Integrity
Shwd gymaint Cymaint â hynny
GERAINT LLOYD
Mae llais arbennig iawn gan Betsan, ond oeddech chi’n gwybod bod yna gôr ar gael i bobl sy ddim yn medru canu’n dda o gwbl? Wel mae Cor Di-Dôn yng Nghaerdydd yn chwilio am aelodau newydd fel clywon ni gan Rhian Thomas fuodd yn sgwrsio gyda Geraint Lloyd….
Di-dôn Tuneless
Awgrymu To suggest
Sefydlwyd Was established
Yn gymdeithasol Socially
Lletchwith Awkward
Cryn dipyn Quite a lot
Arweinydd Conductor
BORE COTHI
Côr Di-dôn Caerdydd yn chwilio am aelodau ac arweinydd newydd, pob lwc iddyn nhw on’d ife? Mae can mlynedd wedi mynd heibio ers i Harry Secombe gael ei eni. Roedd y comedïwr, actor, canwr a chyflwynydd teledu’n dod o Abertawe yn wreiddiol a dyma i chi flas ar sgwrs cafodd y cerddor a chyflwynydd Alwyn Humphreys am Harry Secombe gyda Shan Cothi...
Y fyddin The army
Rhyfel War
Adloniant Entertainment
Milwyr Soldiers
Diddanwr Entertainment
Cyfresi Series
Yn dwlu arno fe Yn ei hoffi’n fawr
Eidalaidd Italian
Cyfansoddi To compose
Denu To attract
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.