Main content

Pigion y Dysgwyr 24ain Medi 2021

Y darnau gorau o raglenni ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru highlights for Welsh learners.

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …

RECORDIAU RHYS MWYN

…blas ar sgwrs gafodd Rhys Mwyn gyda’r Eidales Francesca Sciarrillo, enillydd fedal y dysgwyr Eisteddfod yr Urdd 2019. Francesca oedd yn lawnsio Siart Amgen 2021 a buodd hi’n sôn am ba mor bwysig oedd artistiaid fel Datblygu, Gruff Rhys a Gwenno iddi hi wrth ddysgu Cymraeg.

Amgen Alternative

Telynau Harps

Llinach Linage

Dylanwadu To influence

Bodoli To exist

Cantores Female singer

Annwyl Adorable

ALED HUGHES

Wel doedd dim eisiau i Francesca boeni dim am ei Chymraeg cyn sgwrsio efo Gwenno nac oedd – mae ei Chymraeg hi’n wych! Dych chi’n hoff o gyfresi trosedd? Mae sawl un ar y teledu y dyddiau hyn on’d oes? Mae cyfres newydd o Silent Witness ar ´óÏó´«Ã½ One ar hyn o bryd, ac mae Pembrokeshire Murders wedi cael enwebiad Bafta Cymru. Ond tybed pa mor realistig ydy’r rhaglenni hyn? Dyma farn Nia Bowen, sy’n batholegydd yn Nhreforys, Abertawe.

Cyfresi trosedd Crime series

Enwebiad Nomination

Ymchwil Research

Dwfn Deep

Cynhyrchwyr Producers

Mwy o alw Greater demand

Cael eu parchu Being respected

Hela rhyw lofrudd Hunting some murderer

Disgwyliadau Expectations

Golygfeydd Scenes

COFIO GRAV

Nia Bowen, y patholegydd o Dreforys, oedd honna’n sgwrsio gydag Aled Hughes.
Ar y 12fed o Fedi eleni basai Ray Gravell wedi dathlu ei benblwydd yn 70 oed.
Roedd Grav yn chwaraewr rygbi, yn gyflwynydd, yn actor a phawb yn hoff iawn ohono.
P’nawn Sul roedd rhaglen arbennig gan John Hardy yn Cofio Grav. Dyma glip bach o Grav yn sgwrsio gyda Beti George yng nghlwb rygbi Mynydd-y-Garreg ger Cydweli yn 2004.

Crybwyll To mention

Cyfrifoldebau Responsibilities

Wap ar ôl Yn fuan ar ôl

Uchafbwynt Highlight

Heb os Without doubt

Sodlau Heels

Wedi dweud ar goedd Have proclaimed

Genedigaeth Birth

Bydwraig Midwife

Rhegi mewn gorfoledd Swearing in joy

BORE COTHI

Dyna gymeriad oedd Grav on’d ife? ac roedd hi’n dipyn o sialens i‘r actor Gareth John Bale chwarae rhan y dyn mawr mewn ffilm cafodd ei gweld ar S4C yn ddiweddar. Dyma fe’n sgwrsio gyda Shan Cothi am yr her a’r pwysau o actio cymeriad oedd mor enwog a phoblogaidd â Grav...

Her A challenge

Pwysau Pressure

Mae’r ymateb mor belled The response so far

Rhyddhad Relief

Droeon Several times

Anrhydedd An honour

Dyletswydd A duty

Dychwelyd To return

Dwlu ar To dote on

Cynulleidfa An audience

Cyfarwyddwr Director

BORE COTHI

Ac arhoswn ni gyda Bore Cothi nawr i glywed rhan o sgwrs cafodd Shan gyda Dylan Jones i drafod sut a pham buodd e a’i frindiau yn gwneud Her Tri 3 Chopa Cymru yn ddiweddar. Cerddon nhw Gadair Idris, Pen y Fan ac wrth gwrs, Yr Wyddfa...

Asgwrn Bone

Her Tri Chopa The Three Peaks Challenge

Elusen Charity

Cadw’n heini Keeping fit

Cyflwr Condition

Arbenigwyr Experts

Cyflawni To fulfil

DROS GINIO

Basai’n dipyn o her dringo’r tri chopa unrhyw adeg, ond roedd ei wneud tra’n dioddef o gyflwr ar y traed yn anodd iawn baswn i’n meddwl.
Y seicolegydd chwaraeon, Seren Lois oedd yn ymuno â Vaughan Roderick ddydd Mercher i drafod sut mae llwyddo mewn chwaraeon ac i sônam yr her a’r pwysau sydd ar athletwyr ifanc, fel enillydd yr US Open, Emma Raducanu.

Trafod To discuss

Hyfforddwyr Coaches

Pencampwraig Female champion

Mewnol Inner

Balchder Pride

Boed hynny Whether it be

Goresgyn To overcome

Ymdopi To cope

Cysurus Comforting

Disglair Brilliant

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad