Main content

Bardd Mis Medi Radio Cymru Kayley Sydenham.

Yr Hydref:

Dw i’n cerdded y llwybr
dan y goedwig lonydd
lle y mae darnau aur a rhuddgoch
yn carpedu’r gwair,
creision sy’n crynnu dan fy nhraed,
brodwaith o wyrddni
nawr yn felyngoch, fflamfrown.

Porffor sy’n lledu’n ysgafn
ar hyd copaon y mynyddoedd
disg copr, gwelw, eto’n gynnes
yn dihuno, codi,
yn garnifal o liwiau.

Yma y mae’r goedwig swynol yn sefyll.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

7 o funudau