Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 7fed 2022

Diolch o Galon, Kristofer Hughes, Munud i Feddwl, Rhianwen Condron, Cynghanedd a Mordaith

Ifan Evans - Diolch o Galon – IOAN TALFRYN – 28/12/21

Enwebodd Tony Williams ei diwtor Cymraeg, Ioan Talfryn, i dderbyn Tlws Diolch o Galon ar raglen Ifan Evans. Ond fel ‘Llywelyn’ mae Ioan yn nabod Tony a chawn ni wybod pam hynny ar ôl i Ioan ateb galwad ffôn Ifan…

Enwebu To nominate

Tlws Trophy

Cyfleus Convenient

Cymorth Help

Ar flaenau fy nhraed On my toes

Astrus Anodd

Yn barhaol Constantly

Beti A’I Phobol – 02/01/22 – Kristofer Hughes

Tony, neu, i roi ei enw dosbarth Cymraeg iddo fe, Llywelyn, yn Diolch o Galon i’w diwtor Cymraeg, Ioan Talfryn, ar raglen Ifan Evans.

Mae sawl peth diddorol ac anarferol am Kristoffer Hughes. Mae e’n bagan, fe yw Pennaeth Derwyddon Ynys Môn, mae‘n awdur nifer o lyfrau am fytholeg a chwedlau Cymru. Fe oedd gwestai Beti George a dyma i chi flas ar y sgwrs gafodd e gyda Beti.

Anarferol Unusual

Pennaeth derwyddon Chief of the druids

Chwedlau Fables

Sbïwch Edrychwch

Distawu To silence

Urdd Order

Defodau Rites

Annog To encourage

Yn gamp go iawn A real achievement

Diwylliant Culture

Munud i Feddwl – 30/12/21 – Helen Prosser

Kristoffer Hughes yn fan’na yn canmol dysgwyr y Gymraeg, ac un sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i ddysgu Cymraeg i oedolion yw Helen Prosser sydd yn un o gyfarwyddwyr strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Hi gaeth y cyfle ola i Ddweud ei Dweud yn 2021 a dyma hi’n edrych ar y pethau positif o‘r flwyddyn diwetha, ac hefyd yn edrych ymlaen at 2022.

Cyfraniad enfawr Huge contribution

Cyfarwyddwyr Directors

Amgen Alternative

Datblygu To develop

Wedi ei ffrydio’n fyw Streamed live

Cynulleidfa Audience

Pwyslais Emphasis

Troedio caeau To tread the fields

Cymeradwyo To applause

Diweddglo A finale

Doniau Skills

Geraint Lloyd – 29/12/21 – Rhianwen Condron

Helen Prosser oedd honna’n dangos nad oedd 2021 yn ddrwg i gyd a bod lle i fod yn optimistaidd am 2022.
Roedd Geraint Lloyd yn edrych yn ôl ar rai o sgyrsiau cofiadwy’r flwyddyn diwetha a dewisodd un gaeth e gyda Rhianwen Condron ddechrau mis Rhagfyr. Cafodd Rhianwen ei geni yng Nghymru ond symudodd i Stratford Upon Avon i fyw pan oedd hi’n 8 oed. Enillodd hi wobr Highway Heroes am ei gwaith yn helpu dynion sydd yn gweithio ar briffyrdd Prydain, gan gynnig cymorth iddyn nhw ymdopi gyda phroblemau iechyd meddwl...

Cofiadwy Memorable

Gwobr Award

Priffyrdd Highways

Ymdopi To cope

Hewlydd (heolydd) Ffyrdd

Pryd ‘ny That time

Sut lwyddiant Such success

Hala Anfon

Oherwydd hyn Because of this

Jim Parc Nest – 26/12/21

Rhianwen Condron oedd honna, sydd yn gwneud gwaith arbennig gyda rhai o weithwyr ffyrdd Lloegr.
I gael eich galw’n Brifardd mae’n rhaid i chi ennill un ai’r Gadair neu’r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r Prifardd T. James Jones wedi ennill y ddwy ddwywaith ac mae ei ddau frawd yn Brifeirdd hefyd!
Er mwyn ennill y Gadair mae’n rhaid sgwennu cerdd mewn cynghanedd, hen grefft sydd â llawer iawn o reolau cymhleth. Mewn rhaglen arbennig cafodd Nia Roberts sgwrs gyda’r bardd gan ofyn iddo’n gynta pam dechreuodd o sgwennu mewn cynghanedd….

Cymhleth Complicated

Dylanwad Influence

Braint Privilege

Dw i’n dwlu Dw i wrth fy modd

Arddull Style

Beirniad Adjudicator

Awgrymu’n gynnil To suggest in a subtle way

Gor-glywed To overhear

Y casgliad The conclusion

Bore Cothi - Dydd Mawrth, 28ain o Ragfyr – Sian James

Ac nid yn unig mae brodyr T James Jones yn Brifeirdd ond mae ei wraig, Manon Rhys, a’i nai, Tudur Dylan, yn Brifeirdd hefyd!
Buodd Heledd Cynwal yn cyflwyno ambell raglen Bore Cothi dros y gwyliau ac yn un o’r rhaglenni hynny cafodd hi gwmni’r gantores Sian James ar slot Y Fordaith.
Ble basai Sian yn mynd ar fordaith ddychmygol tybed?

Cantores Female singer

Mordaith ddychmygol Imaginary cruise

O ystyried Considering

Di o’m bwys Dyw e ddim yn bwysig

Lodes Merch ifanc

Profiad hyfryd A lovely experience

Ddaru nhw Wnaethon nhw

Tirwedd Landscape

Trin a thrafod To discuss

Rhinweddau Virtues

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

15 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad