Main content

Matthew Tucker Bardd Mis Ionawr 2022.

Cerdd Bardd y Mis – Ionawr 2022
I Gofio Cylch Meithrin Yr Hendy
(Cyn imi fynychu’r cylch yma, roedd yr adeilad yn gartref i Aelwyd Yr Urdd y pentref, ac yr oedd yn gadarnle i’r Cymry Cymraeg lleol.)

Aeth yr iaith heibio’i throthwy,
a chwerthin y meithrin mwy,
a’r Gymraeg â’i miri hi
yn fud, heb atgyfodi,
a di-raen yw’r pedair wal
yn hun fy neuadd anial.

Yma, bu oes o groeso.
Hwb i’r iaith, cadarnle bro,
ein credo a’n caer ydoedd,
a thÅ· ein treftadaeth oedd.
Yn wir annedd i’r heniaith,
mur oedd ym mwrlwm yr iaith.

Hir yw loes y ffarwél hon,
fy aelwyd sy’n adfeilion.
Rhiniog fy mabinogi,
a dôr fy mhlentyndod i
oedd hon, ond annedwydd wyf;
o hyd galarus ydwyf.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

10 o funudau