Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 21ain 2022
David Bowie, Becky Brewerton, Y Gylfinir, Baner Bethel, Ariel Jackson a chylchgronau.
1) Aled Hughes - David Bowie
Basai David Bowie wedi bod yn 75 oed eleni a chafodd Aled Hughes sgwrs gydag un o'i ffans mwya , Ffion John. Dyma Ffion yn cofio'r tro cynta iddi hi glywed cerddoriaeth Bowie a sut gwnaeth hynny arwain at ei hobsesiwn gyda fe...
Y fenga Yr ifanca
Cynhyrchu To produce
Ymchwilio To research
Llewygu To faint
Gofod Space
Dychmygu To imagine
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol The National Trust
2) Cofio - Ymarfer Corff
Ffion Jones oedd honna'n s么n am ei hobsesiwn gyda David Bowie.
Ymarfer Corff oedd thema Cofio pnawn Sul diwetha, ac roedd cyfle i glywed rhan o sgwrs cafodd Dewi Llwyd yn 2015 gyda Becky Brewerton oedd yn chwarae golff yn broffesiynol. Un o Abergele ydy Becky ac adeg y sgwrs roedd hi newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 33 oed
Datgelu To reveal
Andros o ifanc Ifanc iawn
Yn y man Mewn munud
Ddaru o Gwnaeth e
3) Bore Cothi - Y Gylfinir
Enillodd Becky Brewerton sawl twrnament golff rhyngwladol ac mae hi dal yn ennill ei bywoliaeth ym myd golff. Daniel Jenkins Jones o'r RSPB ydy 'dyn yr adar' ar Bore Cothi a dydd Mercher buodd e'n trafod yr aderyn sy'n enwog am ei big, sef y gylfinir
Bywoliaeth Livelyhood
Y Gylfinir Curlew
Rhydyddion Waders
Cyfarwydd iawn Very familiar
Cyfandir Continent
Nythu To nest
Ar waenydd On moorlands
Rhostiroedd Heathlands
Plu Feathers
Cryman Sickle
4) Geraint Lloyd - Lluniau
Daniel Jenkins Jones o'r RSPB yn fan'na yn rhannu gwybodaeth am y gylfinir. Mae yna lyfr lluniau sydd yn rhoi ychydig o hanes ardaloedd Efailnewydd, Llannor a Penrhos ym Mhen Ll欧n yn mynd i gael ei gyhoeddi'n fuan a Rhian Jones fuodd yn s么n am un o'r hanesion sydd yn y llyfr gyda Geraint Lloyd
Cyhoeddi To publish
Crefyddol Religious
Y Bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century
Porthladd Port
Am wn i I suppose
Gwasanaethau (religious) services
Sefydlu To establish
5) Bore Sul - Ariel Jackson
Hanes y capten llong Hugh Hughes a Baner Bethel yn fan'na ar raglen Geraint Lloyd. Penderfynodd Ariel Jackson o Napa, California ddysgu Cymraeg ar 么l iddi hi weld arwyddion Cymraeg am y tro cyntaf pan oedd hi yma ar wyliau. Erbyn hyn mae hi wedi bod yng Nghymru sawl gwaith, wedi dod yn rhugl yn yr iaith ac wedi dysgu Cymraeg i Puck ...ei chi!
Y Deyrnas Unedig The UK
Y ffin The border
Sir Fynwy Monmouthshire
Swynol Charming
Gorchmynion Commands
Cymuned Community
Llenyddiaeth Literature
Diwylliant Culture
Breuddwyd Dream
6) Gwneud Bywyd yn Haws - Cylchgronau
Ariel Jackson o Napa, California yn siarad ar Bore Sul efo Bethan Rhys Roberts.
Nos Fawrth ar GBYH roedd Hanna Hopwood yn cael cwmni Rhiannon Jenkins o Eifionydd sydd wedi gweithio yn Llundain fel is olygydd ar gylchgronau Cosmopolitan, Men's Health, Women's Health a Runner's World. Pa fath o le yw ei weithio ynddo, tybed?
Is-olygydd Subeditor
Awyrgylch Atmosphere
Cymysgu To mix
Cylchgronau Magazines
Cynnwys Content
O dan bwysau Under pressure
Yn wirioneddol Really
Blaenllaw Prominent
Boed o Whether it be
Lles Welfare
Hyrwyddo To promote
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy鈥檔 dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.