Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 15fed 2022

Aled Jones, hanes Evan James, Nigel Owens, Twm Bwlch, Star Wars a chlwb sgwrsio newydd.

Bore Cothi ac Aled Jones

Dach chi wedi bod yn gwylio 'The Masked Singer'? Rhaglen ydy hon lle mae pobl enwog yn canu mewn gwisgoedd sydd yn cuddio pob rhan o'r corff, fel bod neb yn medru eu nabod nhw. Tasg y panel oedd dyfalu pwy oedd y tu 么l i'r wisg. Roedd y ffeinal nos Sul ac mi ddaeth y Gymraes Charlotte Church yn ail - hi oedd 'Mushroom'. Ond roedd Cymro yn y gystadleuaeth hefyd, Aled Jones - a fo oedd "Traffic Cone". Bore Mercher ar Bore Cothi mi gaeth Shan Cothi sgwrs efo Aled am y rhaglen...

Dyfalu - To guess
Yr ail gyfres - The second series
Chwyslyd - Sweaty
O mam bach - OMG
Taith Gadeirlan - The Cathedral Tour

CYMRU CARWYN Evan James

Ac os gweloch chi'r ffeinal - mi roddodd Charlotte Church gliw Cymraeg i'r panel, y gair 'modryb' - ond doedd hynny ddim wedi helpu'r panel o gwbl gan fod neb ohonyn nhw'n deall Cymraeg!

Mae Carwyn Jones yn teithio o gwmpas Cymru ac yn rhannu ychydig o hanes y llefydd mae o'n ymweld 芒 nhw efo gwrandawyr Radio Cymru. Nos Iau, mi fuodd o ym Mhontypridd a chael hanes cynnar Evan James, sef awdur c芒n sy'n cael ei chlywed yn aml ar hyn o bryd yn ystod y gemau rygbi rhyngwladol... ia, yr anthem genedlaethol, Hen Wlad fy Nhadau . Dyma Gwen Griffiths....

Rhyngwladol - International
Hynafol - Ancient
Diwylliant - Culture
Melin wl芒n - Woolen Mill
Ar bwys - Wrth ymyl
Cynhyrfus - Exciting
Y Chwyldro Diwydiannol - The Industrial Revolution
Camlas - Canal
Beirdd - Poets
Blaengar - Progressive

Cofio - Nigel Owens yn ymddeol

Gwen Griffiths oedd honna'n rhoi ychydig o hanes Evan James awdur geiriau 'Hen Wlad fy Nhadau' wrth Carwyn Jones.

Ymddeol oedd pwnc Cofio wythnos yma a chafodd John Hardy sgwrs efo Nigel Owens sydd wedi ymddeol fel dyfarnwr rygbi rhyngwladol ers dros dwy flynedd erbyn hyn. Gofynnodd John iddo fo oedd o'n colli'r dyfarnu o gwbl...

Dyfarnwr Rygbi Rhyngwladol - International Rugby referee
Gweld eisiau - To miss
Torf - Crowd
Trosgais - Conversion
Ysgol gyfun - Comprehensive school
Y diweddar - The late
Yn galetach - Harder
Nawr ac yn y man - Now and then
Cyfrifoldeb - Responsibility

Ifan a Tom Bwlch

Nigel Owens yn cadw ei hun yn brysur ar y fferm ar 么l iddo fo ymddeol fel dyfarnwr rygbi rhyngwladol.
Pnawn Mercher mi gafodd Ifan Evans sgwrs efo ffarmwr bach arall, Tomos Lewis, un ar ddeg oed o Ddihewyd ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion. Mae Tomos wedi cymryd rhan yn rhaglen Cefn Gwlad efo Ifan yn 2020 ac mae wedi s么n wrtho fo o'r blaen ei fod wedi mynd i drafferthion yn yr ysgol am roi mwy o sylw i ffermio nag i'w waith ysgol. Dyma fo dweud wrth Ifan beth ddigwyddodd pan anghofiodd Tomos wneud ei waith cartref...

Trafferthion - Trouble
Ambyti e - Amdano fo
Rhwydd - Rhwydd
Y Da a'r lloi - The cattle and calves
Drygioni - Mischief
Safle - Position
Bachwr - Hooker
Sa i'n gwybod - Dw i ddim yn gwybod
Cais - A try
Chwaled - A rout

Aled Hughes a Andrew White Star Wars

Dw i'n si诺r bod Tomos wedi mwynhau'r g锚m ddydd Sadwrn gan fod Cymru wedi curo'r Alban o ugain pwynt i un deg saith.

Y Millennium Falcon ydy llong ofod mwya adnabyddus ffilmiau Star Wars, ond oeddech chi'n gwybod mai yn Noc Penfro cafodd y llong ei hadeiladu? Mi gaeth Aled Hughes sgwrs efo Andrew White o gronfa'r loteri i s么n am brosiect i greu arddangosfa yn Noc Penfro i ddathlu'r ffaith fod y Millennium Falcon wedi cael ei hadeiladu yno yn y 70au.

Adnabyddus - Famous
Llong ofod - Space ship
Arddangosfa - Exhibition
Byd eang - Worldwide
S茂on - Rumours
Cyfrinach - Secret
Denu - To attract
Adfywiad economaidd - Economic renewal
Atgyfnerthu - To strenghen
Teimlad o falchder - Feeling of pride

Ar y Marc Lowri Serw

Aled Hughes yn fan'na yn cael tipyn o hanes adeiladu'r Millenium Falcon yn Noc Penfro.

Mae Lowri'n dod o Lanrwst ac yn gweithio fel nyrs iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Ond mae hi hefyd yn ffan mawr o d卯m p锚l-droed Wrecsam. Mae hi wedi sefydlu gr诺p sgwrsio ar gyfer merched sy'n cefnogi Wrecsam fel un ffordd o helpu efo unrhyw broblemau iechyd meddwl. Beth sy'n digwydd yn y sesiynau tybed? Dyma Lowri'n sgwrsio ar Ar y Marc

Sefydlu - To establish
Cymuned - Community
Gwerthfawrogi - To appreciate
Gwamalu - To vacillate
Angerddol - Passionate
Boed - Whether it be
Llifo drwy dy wythiennau - Flowing through your veins
G么l-geidwad - Goalkeeper
Y Wefr - The thrill

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 大象传媒 Radio Cymru,

Podlediad