Menna Elfyn Bardd Mis Mawrth Radio Cymru - Cerdd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched
Menna Elfyn Bardd Mis Mawrth Radio Cymru - Cerdd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched
Mawl i Ti – Shani*
( cyfaill a bardd)
Ni chawsom gwrdd yn y Gelli eleni
ond ar draws sgrin rhannu sgwrs
yn ddwys ac afieithus wnaethom,
mynwesu ein hangerdd at y byd
a rannwn--ar wahân --gyda’r hwyr.
A ddoe ddiwetha’ o Abu Dhabi—
tithau dros dro yn dysgu yno,
daeth gair it droi yn gennad rad,
gan estyn nwydd fesul nwydd, o law
i law, yn rhoddion i’r merched alltud--
mewn lluestfa ymhell o’u mamwlad.
Parseli o bethau pitw a geisiwyd:
blwch trin ewinedd, brwsh gwallt,
sgarff newydd, llyfr gan ffrind—
ond beth am y cais am becyn o greision?
A’r rhodd o anrheg anferthol—
cês teithio? I un yn ei hunfan?
Gwenais wrth feddwl amdanat
fel asyn-cludo dynol er mai’r unig
gyffuriau yn dy feddiant oedd
dyheadau’r rhain wrth iddynt
ddianc o dranc eu dyddiau dreng,
yn gofyn am yr ambell foethyn--
ynghyd â’r ‘ cês’ i adael ar wib
er efallai i gyrraedd tir diffaith?
Gallaf weld tywyn dy wên
wrth i’r postmon dy groesholi,
‘Pwy yw hon a hon’? Fy chwaer!
Galwodd enw arall, a’r un ateb eto,
‘Hi hefyd yw fy chwaer’. A chyn hir
yn dy ddull tirion mabwysiadu cenedl
o chwiorydd wnest, y rheiny ar ffo,
ti nawr eu chwaer fawr, yn un o’r llwyth,
yn cario llwyth i’r sawl – un byd ddaeth i ben;
ti’r bydysawd, gyda bys a bawd yn croesi
ynysoedd cariad hyd at ymyl y lan.
Tishani, chwa wyt a’m chwaer o bell.
Fel dy fam o’th flaen yn achub babanod
ollyngwyd mewn gwteri yn Madras,
yr wyt tithau’n achub benywod, yn ddibendraw.
‘Dof i fyth i’w nabod’ meddit. Eto
onid dyna ystâd bardd, astudio byd
gyda rhywbeth mwy o lawer na geiriau.
*Gofynnwyd i Tishani Doshi i gario nwyddau bychain o geisiadau rhai o’r merched o Affganistan a lwyddodd i ddianc , dros dro i lochesfa yn Abu Dhabi. Bu ei mam Eira, Cymraes o Glwyd yn wreiddiol hefyd yn gwneud gwaith gwirfoddol o gasglu babanod a adawyd ar y strydoedd yn India am eu bod yn fenywod gan weithio gydag elusennau i roi cartrefi iddynt.