Main content

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dathlu 70

Tegryn Jones Prifweithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw gwestai Beti George. Mae'r Parc yn dathlu 70 mlynedd eleni, ac mae'n trafod yr heriau fu yn 1952 wrth iddynt sefydlu'r Parc a'r heriau gwahanol y maent yn eu hwynebu heddiw. " Mae Newid Hinsawdd yn broblem enfawr i ni" meddai Tegryn, mae hefyd yn s么n am ddiwylliant ieithyddol arbennig yr ardal a'r ffordd y bydd Parciau Cenedlaethol yn addasu. " Mae llinell ar draws Sir Benfro gydag amrywiaeth daearegol mwy na unrhyw fan arall yn y byd. Er yn fach o ran maint, dwi'n credu o safbwynt amrywiaeth a'r hyn sydd genna ni i gynnig falle bod ni gyfystyr ac unrhyw barc arall yn y wlad".

Mae Tegryn wedi gwneud amrywiol swyddi ac mae'n rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal 芒 dewis ambell i g芒n sydd wedi creu argraff.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

6 o funudau