Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 29ain 2022
Mirain Rhys, Marchnad Llanbed, Hanes Cerdded, Tom Pitts-Tucker, Ifor ap Glyn,John Williams
Gwneud Bywyd yn Haws - Mirain Rhys
Am 6 ar nosweithiau Mawrth mae Hanna Hopwood a'i gwesteion yn trafod be sy'n gwneud bywyd yn haws, a'r thema wythnos diwetha oedd teimladau plant. Dyma glip o'r Dr Mirain Rhys sy'n Uwch Ddarlithydd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Met Caerdydd, yn esbonio pa mor bwysig ydy cael plant i feddwl yn bositif, a sut mae'n bosib gwneud hynny efo sylwadau cadarnhaol...
Uwch Ddarlithydd - Senior lecturer
Sylwadau cadarnhaol - Affirmations
Ar hap - Randomly
Darbwyllo unigolion - To convince individuals
Y gwirionedd - The truth
Yn ehangach - Wider
Cyflawni - To achieve
Gallu - Ability
Datblygu - To develop
Hyblyg - Flexible
Ac i glywed rhagor o'r sgwrs yna rhwng Hanna a'r Dr Mirain Rhys mae'n bosib gwrando eto ar ap 大象传媒 Sounds drwy chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws.
Marchnad Llanbed
Ychydig o hanes Marchnad Llanbedr Pont Steffan, neu Llambed, sy nesa. Mae'r farchnad wedi ennill gwobr Y Farchnad Orau yng Nghymru gyda'r Slow Food Awards. Dyma ymateb Jane Langford, un o drefnwyr Marchnad Llanbed ac un o'r stondinwyr, Yve Forrest o Cegin Yve i'r wobr...
Pleidleisio - To vote
Syndod - A surprise
Cynhyrch - To produce
Ansawdd - Quality
Blawd - Flour
Cynnyrch - Product
Bro Morgannwg - Vale of Glamorgan
Awyrgylch gefnogol - Supportive environment
Cyfeillgar - Friendly
Ychydig o hanes marchnad Llambed ar raglen Troi'r Tir wythnos diwetha.
Hanes cerdded
Dach chi erioed wedi meddwl am hanes cerdded? Mae Andrew Green wrthi'n paratoi llyfr am hanes cerdded yng Nghymru. Pa mor bell yn 么l mewn hanes fydd o'n mynd tybed? Dyma fo'n sgwrsio efo Aled Hughes....
Arfordir - Coast
Gwledig - Rural
Pentwr - Heap
Oes - Age
脭l traed - Footprint
Darganfod - To discover
Andrew Green oedd hwnna'n s么n am ei lyfr newydd am hanes cerdded yng Nghymru.
Bore Cothi a Tom Pitts-Tucker
Shan Cothi gafodd air efo Tom Pitts-Tucker fore Mercher. Mae o'n byw ger Trefynwy ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tua tair blynedd a dyma fo yn rhoi ychydig o'i hanes...
Sir Efrog - Yorkshire
Mo'yn dychwelyd - Eisiau dod yn 么l
Meddygon teulu - GPs
Anhygoel - Incredible
Her - A challenge
Annog - To encourage
Diwylliant - Culture
Allwedd - Goriad
Tom Pitts-Tucker yn esiampl da o'r rhai sy'n dysgu Cymraeg ar 么l symud i fyw i Gymru.
Dwyieithrwydd Dros y Dwr
Aeth Ifor ap Glyn i Wlad Belg i ddarganfod mwy am yr iaith Iseldireg yn Fflandrys a Brwsel a'i pherthynas efo'r Ffrangeg. Drwy lwc daeth ar draws Lieven Dehandschutter sydd 芒'r Iseldireg yn famiaith iddo, ond mae o hefyd yn rhugl yn y Gymraeg.
Gwlad Belg - Belgium
Iseldireg - Flemish
Sefydlwyd - Was established
Iaith weinyddol - Administrative language
Y werin - The ordinary people
Tafodieithoedd - Dialects
Rhwydd hynt i ymgryfhau - A free hand to strengthen
Pur anaml - Rarely
Cellwair - Banter
Diddorol ynde? Sefyllfa Iseldireg yng Ngwlad Belg debyg iawn i'r Gymraeg yng Nghymru.
Stiwdio - John Williams
Mae'r cyfansoddwr John Williams wedi dathlu ei ben-blwydd yn 90 eleni. Yn ystod ei yrfa mae o wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer rhai o'r ffilmiau mwya eiconig yn hanes y sinema, gan gynnwys Star Wars, Superman, ET a Harry Potter. Efo enw fel John Williams ydan ni'n medru ei hawlio fel Cymro tybed? Wedi'r cwbl roedd ei dad yn cadw siop ym Mangor. Ond yn anffodus Bangor Maine oedd hwnnw ac nid Bangor Gwynedd. Americanwr oedd John Williams a dyma i chi gyfansoddwr arall, Owain Llwyd yn rhoi ychydig o'i hanes i ni...
Hawlio - To claim
Cyfansoddwr - Composer
Cyflawni - To achieve
Enwebu - To nominate
Parch - Respect
Symlrwydd - Simplicity
Cerddorfa - Orchestra
Canadwy - Singable
Ysbrydoli - To inspire
Cyfarwyddwr - Director
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy鈥檔 dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.