Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 5ed 2022

Beyl a nyrsio, Beks, Edina a Lin, Richard Pooley, Owain Wyn Evans a Iolo Williams

Post Prynhawn - Beryl y Nyrs

Ar Post Prynhawn dydd Llun mi gafodd Nia Cerys sgwrs efo Beryl Roberts, nyrs arbennig sy newydd ymddeol yn 55 oed. Cychwynnodd ei gyrfa yn ysbyty Clatterbridge ac mae hi wedi gweithio gyda chleifion Canser ers hynny yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac yn Wrecsam. Dyma i chi flas ar y sgwrs ...
Cleifion - Patients
Triniaethau - Treatments
Y gweddill - The rest
Datblygu - To develop
Pennaeth - Head
Sgileffeithiau - Side-effects

A phob lwc i Beryl ar ei hymddeoliad ynde?

Beti a Beks

Beks - Rebekah James oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Roedd Beks yn arfer cyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru ond erbyn hyn mae hi'n byw yn Hong Kong. Dyma i chi ran o'r sgwrs efo Beti ble mae Becks yn esbonio pam gwnaeth hi werthu ei th欧, a'i char a rhoi'r gorau i'w gyrfa efo'r 大象传媒 ugain mlynedd yn 么l....
Cyflwyno - To present
Rhoi'r gorau i - To give up
Cwympo - Syrthio
Anhygoel - Incredible
Delfrydol - Ideal
Yn llythrennol - Literally
Enfawr - Huge
Ysgariad - Divorce
Go gyhoeddus - In the public eye

...ac mae Beks yn dathlu ei phenblwydd yn 50 eleni a dw i'n si诺r bydd yna dipyn o ddathlu draw yn Hong Kong.

Aled Hughes - Edina a Lin

Y Gymraeg sydd yn cysylltu Edina Potts-Clement o Hwngary a Lin Dodd o Tsieina ac mae'r ddwy erbyn hyn yn gweithio yn yr un ysgol - Ysgol Gymraeg Caerffili. Gofynnodd Aled Hughes i'r ddwy ohonyn nhw ar ei raglen bore Mawrth pam wnaethon nhw ddysgu Cymraeg

Addysg Cyfrwng Cymraeg - Welsh medium education

Cymraeg yw iaith y dyfodol - clywch clywch Lin.

Bore Cothi - Rich Pooley

Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes fore Iau a buodd hi'n sgwrsio efo Richard Pooley sy'n byw yn Shotton yn Sir y Fflint, ond sy'n dod o Gaerdydd yn wreiddiol ac sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 8 mlynedd. Mae Richard wedi dechrau Clwb Siarad Shotton i roi cyfle i ddysgwyr ac i siaradwyr y Gymraeg yr ardal ddefnyddio'r iaith
Ymdrech - Attempt
Cylchdaith - Circuit
Addas - Appropriate
Profiadau - Experiences
Cefnogol - Supportive

Syniadau gwych yn fan'na gan Richard Pooley am sut i roi cyfleoedd i bobl ardal Shotton ddefnyddio eu Cymraeg.

Ar Blat - Owain Wyn Evans

Buodd Beca Lyne-Pirkis yn siarad efo Owain Wyn Evans, y cyflwynydd tywydd, ac os dach chi'n cofio llwyddodd Owain i chwarae'r drymiau am 24 awr er mwyn codi arian i Plant Mewn Angen y llynedd. Dyma Owain yn s么n am sut oedd drymio wedi bod o help iddo fo mewn cyfnodau anodd pan oedd o'n ifanc...
Cyfnodau - Periods of time
Hoyw - Gay
Ffonau symudol - Mobile phones
Estron - Foreign

Owain Wyn Evans y cyflwynydd tywydd oedd hwnna'n sgwrsio efo Beca Lyne-Pirkis.

Byd Iolo
Aeth Iolo Williams ar daith i Allerdale yng ngogledd yr Alban - rhyw awr a hanner i'r gogledd o Inverness ac mi aeth o 芒 ni, gwrandawyr Radio Cymru, ar y daith efo fo.....

Gwarchodfa - Nature reserve
Erwau - Acres
Hir dymor - Long term
Ail-wylltio - Rewilding
Ysgubor - Barn
Baw - Excrement
Ucheldir - Highlands
Tylluan - Owl
Nythu - To nest
Hela - To hunt

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 大象传媒 Radio Cymru,

Podlediad