Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 12fed 2022

Lamb Cam, Carren Lewis, Newsround yn 50, Cloddio Aur, Huw Foulkes ac Elinor Williams.

Troi'r Tir Lamb Cam
Mae'n dymor wyna a llawer o ffermydd erbyn hyn efo camer芒u yn y siediau i gadw llygad ar y defaid a'r 诺yn. Mae Fferm Llwyn yr Eos yn Amgueddfa Werin Cymru, St Ffagan, wedi bod yn ffrydio ffilmiau o'r 诺yn bach yn cael eu geni ers blynyddoedd. Dyma Bernice Parker, sy'n gweithio i'r amgueddfa efo'r hanes...
Tymor wyna - Lambing season
Amgueddfa Werin Cymru - National Museum of History
Ffrydio - To stream
Yn gyfrifol am - Responsible for
Cadw mewn cysylltiad - Keeping in contact
Ymatebion - Responses
Ar wah芒n - Apart
Yn llythrennol - Literally
Darlledu - To broadcast
Gwatsio - Gwylio
Byd-eang - Worldwide

Felly os dach chi eisiau gweld 诺yn bach yn cael eu geni, dach chi gwybod lle i fynd!

Beti a Carren Lewis
Mae Carren Lewis yn dod o Benrhyndeudraeth ger Porthmadog yn wreiddiol, ond dreuliodd cyfnod yn byw yn Marmaris yn Nhwrci. Buodd Carren yn s么n wrth Beti George am yr adeg aeth hi i gartref plant yn Ne Ddwyrain Twrci gan feddwl bod dau blentyn yna iddi hi eu mabwysiadu . Ond siom cafodd hi fel cawn ni glywed yn y clip nesa ma...
Cartref plant - Orphanage
Mabwysiadu - To adopt
Hogan - Merch
Dall - Blind
Ddaru ni - Wnaethon ni
Genod - Merched
Cefndir - Background
Amgylchiadau - Circumstances

A nes ymlaen yn y sgwrs clywon ni bod Bedri wedi setlo'n iawn efo'i deulu newydd ac newydd gwneud ei arholiadau TGAU.

Newsround 50
Mae'r rhaglen newyddion Newsround yn dathlu ei phenblwydd yn hanner cant eleni a bore Mawrth mi roedd Alex Humphreys, cyflwynydd tywydd S4C sydd hefyd wedi cyflwyno Newsround, yn trafod y rhaglen ac yn esbonio pam mae cyflwyno newyddion i blant yn wahanol i'w gyflwyno i oedolion.
TGAU - GCSE
Cyflwynydd - Presenter
Trwy gydol eu hoes - Throughout their lives
Newyddiaduriaeth - Journalism
Dyfalu - To guess
Yn gyhoeddus - Publicly
Trafod - To discuss
Cyd-bwysedd - Balance
Y buarth - The (school) yard
Cyflawn - Complete
Gwasanaethau brys - Emergency services

Alex Humphreys oedd honna'n s么n am Newsround, y rhaglen newyddion i blant.

Cloddio Aur
Mae Aur Clogau'n enwog ac yn ffasiynol iawn y dyddiau hyn. O ardal Dolgellau daw'r aur ac mae'r daearegwr Elin Mars Jones yn cloddio am yr aur ar hyn o bryd. Dyma hi'n sgwrsio efo Aled Hughes am ei gwaith ...
Daearegwr - Geologist
Cloddio - To mine
Aur - Gold
Cynhyrchu - To produce
Graddio - To graduate
Canfod strwythurau - Finding structures

Hanes cloddio aur Clogau yn fan'na gan Elin Mars Jones.

Huw Foulkes a C么rdydd
Weloch chi ffeinal C么r Cymru ar S4C? Wel am gystadleuaeth dda ynde? C么rdydd enillodd a dyma arweinydd y c么r Huw Foulkes yn siarad efo Shan Cothi am y noson fawr...
Chwys domen - Sweating buckets
Wedi gwirioni'n l芒n - Were over the moon
Beirniaid - Adjudicators
Hollol gyt没n - Unanimous
Disgyblaeth - Discipline
Cegrwth - Open mouthed
Anghrediniaeth lwyr - Total disbelief
Wedi dod i'r brig - Had won
Byd o les - A world of good
Beiddgar - Bold
Wedi elwa - Had profited

Huw Foulkes yn amlwg wedi gwirioni efo perfformiad C么rdydd yng nghystadleuaeth C么r Cymru.

Dros Ginio
Mam a merch oedd gwestai Dewi Llwyd pnawn Llun yn y slot dau cyn dau. Roedd Eirwen Thomas yn arfer gweithio fel athrawes ac mae ei merch, Elinor Williams, yn un o benaethiaid Ofcom yng Nghymru. Mae'r ddwy'n byw yn agos iawn i'w gilydd ym mhentre bach Llanedi, yn Sir Gaerfyrddin. Yn y clip nesa 'ma mae Elinor yn s么n am ei Alopecia

Penaethiaid - Chjef officers
I ddygymod ag o - To cope with it
Cyflwr - Condition
Moel - Bald
Cymhleth - Complicated
Pendantrwydd - Determination
Tebygolrwydd - Likelyhood

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

14 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 大象传媒 Radio Cymru,

Podlediad