Main content

" Roedd gennai ddiddordeb mawr mewn sut oedd papurau newydd yn gweithio"

Dyfed Edwards, Nofelydd a Newyddiadurwr.

Y nofelydd Dyfed Edwards, ydi gwestai Beti George, fe ennillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddod Genedlaethol ddwy waith yn olynnol. Mae o hefyd yn awdur toreithog yn Saesneg gan ysgrifennu o dan yr enw Thomas Emson.

Cafodd ei fagu ym mhentref Rhosmeirch ger Llangefni, ac fe aeth i Ysgol Gynradd Llangefni ac wedyn symud i Ysgol Gyfun Llangefni. Roedd wrth ei fodd yn darllen comics a llyfrau, dechreuodd yn y cyfnod yma ddarlunio a sgwennu straeon bach ei hun. Yna aeth i鈥檙 Coleg Normal ym Mangor i astudio 鈥榬 cwrs Cyfathrebu yn 1985 . Dim ond ryw 7 ohonynt oedd yn astudio鈥檙 cwrs. Roedd y cwrs yn un weddol newydd ar y pryd ac yn dal i gael ei ddatblygu a鈥檌 greu. Un modiwl y dewisodd oedd Ysgrifennu Creadigol o dan arweiniad Rhiannon Davies Jones ac Ifor Wyn Williams sydd wedi ei ddylanwadu鈥檔 fawr.
Ymgeisiodd am swydd gohebydd dan hyfforddiant efo gr诺p papurau newydd yr Herald a bu鈥檔 llwyddiannus. Bu'n gweithio gyda'r Holyhead and Anglesey Mail, bu'n Ddirprwy Olygydd y Weekly News yng Nghyffordd Llandudno, a bu hefyd yn Olygydd Cynhyrchu'r Daily Post yng Nghymru. Mae bellach yn gweithio gyda鈥檙 Daily Mail gan weithio ar y ddesg fusnes. Mae鈥檔 gweithio o adref sy鈥檔 gr锚t. Mae o hefyd yn darlithio mewn ysgrifennu creadigol.
Mae o wedi ysgrifennu dram芒u ac 20 o nofelau yn y ddwy iaith, ac mae bob amser nofel neu sgript ar y gweill.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

8 o funudau