"36 % o ynni adnewyddol da ni’n ei ddefnyddio yng Nghymru, 60% yn yr Alban"
Catrin Ellis Jones yw gwestai Beti ai Phobol mae ei stori yn mynd a ni o Sling, Tregarth i Folivia a Chile a nol i’r Fenni lle mae hi’n byw bellach gyda’i theulu. Mae hi’n gweithio gydag un o gwmnïau gwerthu ynni mwyaf Ewrop, Vattenfall fel Pennaeth Ymrwymiad Rhanddeiliaid a Chymunedau ac yn trafod gyda chymunedau sut y gall ynni gwynt fod o fantais iddynt. Bu’n byw ac yn gweithio ym Molivia a Chile, De America am flynyddoedd yn chwilio am fwynau ac yn cydweithio gyda’r bobol gynhenid. Mae hi bellach yn gweithio ar brosiectau ynni yn ein moroedd. “ 36 % o ynni adnewyddol da ni’n ei ddefnyddio yng Nghymru, 60% yn yr Alban, be sw ni’n licio’i weld ydi Cymru ar flaen y gad gyda thechnoleg newydd sydd i ddod fel bod ni'n creu hi'n bosib i ni ddi-garboneiddio mwy o'n diwydiant ni". " Mi fydda Cymru yn medru gwneud dur di-garbon" meddai Catrin.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Beti a'i Phobol
-
" Lle ni'n gosod y celfyddydau fel cenedl ?"
Hyd: 04:32
-
Stori y Gangster Murray the Hump
Hyd: 08:18
-
Mali Ann Rees
Hyd: 05:32