Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 24ain 2022

Gwyn Elfyn,Tafarn yr Heliwr, Dr Who, Maeth Bwyd, Ffrwythau Tun a Russell Isaac.

Dei Tomos a Gwyn Elfyn
Yr actor Gwyn Elfyn oedd gwestai Dei Tomos wythnos diwetha. Fo oedd Densil yn Pobol y Cwm am flynyddoedd ac yn siarad efo acen de Cymru ar y rhaglen. Ond yn y clip nesa dan ni'n clywed Gwyn yn sgwrsio efo Dei Tomos efo acen ogleddol Blaenau Ffestiniog. Pa acen ydy yr un naturiol iddo fo felly?

Tafodiaith - Dialect
Cyfeillion - Ffrindiau
Honni - To claim
Lwcus ydy Gwyn Elfyn ynde, yn medru siarad yn naturiol yn nhafodiaith y de a'r gogledd.

Gwenno Williams Tafarn yr Heliwr
Dydd Llun cafodd Aled Hughes sgwrs efo Gwenno Williams o dafarn gymunedol Yr Heliwr yn Nefyn. Roedd pobl Nefyn wedi codi arian i brynu'r adeilad ac i ail-wneud rhannau o'r dafarn er mwyn ei chael yn barod ar gyfer y cyhoedd. Awgrymodd Aled wrth Gwenno bod stori yr Heliwr yn stori o gymuned yn uno ac yn llwyddo a dyma oedd ymateb Gwenno...
Cymuned - Community
Hwb - A boost
Gwireddu - To make it happen
Ail-wneud - To redo
Gwirfoddoli - To volunteer
Budd mawr - A great benefit
Gwobr - Prize
Ysbrydoliaeth - Inspiration
Mentrau cymunedol - Community enterprises
Cyd-weithio - To co-operate
Aballu - And so on

Mae hi'n braf iawn gweld yr holl fentrau cymunedol yma'n llwyddo yn tydy?

Aled Hughes Dr Who
Daeth newyddion cyffrous am y gyfres Doctor Who wrth i'r doctor nesa gael ei enwi, sef yr actor Ncuti Gatwa. Cafodd Ncuti ei eni yn Rwanda a'i fagu yn yr Alban. Mae'n enwog am ei ran yn y gyfres boblogaidd Sex Education, a fo fydd yn chwarae rhan Doctor rhif un deg pedwar yn y gyfres eiconig. Mae Alun Parrington yn "Whovian" sef un o ffans enfawr y gyfres, a dyma fo'n s么n wrth Aled Hughes am Ddoctoriaid y gorffennol...

Cyfres - Series
Cyfnod - Period (of time)
Dal fy nychymyg - To catch the imagination
Goro - Gorfod
Pennod - Episode
Gadael argraff - To leave an impression
Gwatsiad - Edrych ar
Cenhedlaeth - Generation
Alun Parrington oedd hwnna'n amlwg yn edrych mlaen at gyfres newydd Dr Who.

Bore Cothi maeth bwyd
Mae Angharad Griffiths wedi cymhwyso fel therapydd maeth ar 么l tair blynedd o astudio ac mae hi wedi agor clinig maeth i ddysgu pobl am fwyd, ac yn arbennig felly pwysigrwydd bwyta bwyd maethlon. Dyma glip o Angharad yn esbonio wrth Shan Cothi pa fath o fwydydd sy'n rhai maethlon...
Cymhwyso - To qualify
Maeth - Nutrition
Maethlon - Nutritious
Yn dueddol o - Tend to
Ymddangos - To appear
Cynhwysion - Ingredients
Lleihau - To reduce
Mo 'yn - Eisiau

Bore Cothi Ffrwythau Tun
Tybed fasai Angharad yn ystyried bod tun o peaches, neu eirin gwlanog, yn fwyd maethlon? Wel mae'n bosib cawn ni'r ateb yn y clip nesa ma o raglen Bore Cothi, lle mae'r cogydd Nerys Howell yn cymharu ffrwythau tun efo ffrwythau ffres...
Hylif - Liquid
Twymo i dymheredd - Warm to tempretature
Triniaeth gwres - Heat treatment
Toddi - To melt
Braster - Fat
Mwynau - Minerals
Amrywio - To vary

Diddorol ynde, manteision ar y ddwy ochr yn fan'na wrth gymharu ffrwythau ffres efo ffrwythau tun.

Beti a'i Phobol Russell Isaac
Roedd Russell Isaac yn arfer gweithio fel newyddiadurwr ond erbyn hyn mae o'n gweithio efo'r Cenhedloedd Unedig. 40 mlynedd yn 么l aeth Russel draw i ochr arall y byd ar ran rhaglen newyddion Cymraeg ITV - Y Dydd- ac ar ran y rhaglen Saesneg Report Wales, i adrodd am ryfel Ynysoedd y Malfinas. Dyma fo'n s么n wrth Beti George sut gaeth o wybod ei fod yn gorfod mynd draw yno...
Y Cenhedloedd Unedig - United Nations
Llynges - Navy
Ar fin - About to
Cysylltiadau - Connections
Ymchwilydd - Researcher
Mynnu - To insist
Archentwyr - Argentinians
Gorchymyn - A command
Cyfarwyddyd - Instruction

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

13 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 大象传媒 Radio Cymru,

Podlediad