Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 22ain o Fedi 2022

Y Frenhines, y garddwr a bwyta'n iach.

Dros Frecwast
Y garddwr o Fôn, Medwyn Williams, yn cofio cwrdd â’r Frenhines Elizabeth yr 2il mewn sgwrs efo Dylan Ebenezer.
Brenhines - Queen
Cynllunio - To plan
Arddangosfa - Exhibition
Deuthi - Dweud wrthi hi
Gwybodus iawn - Very knowledgable
Byd garddwriaethol - Gardening world
Croen - Skin

Bore Cothi
Shân Cothi yn cael sgwrs efo enillydd Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022, Dr Edward Rhys-Harry o Benclawdd, Abertawe. Gofynodd Shân iddo fo sut deimlad ydy hi i glywed ei ddarnau yn cael eu perfformio gan gerddorfa neu gantorion?
Tlws y Cerddor - The Musicians Trophy
Darnau - Pieces
Cerddorfa neu gantorion - Orchestra or singers
Unig - Lonely
Cyfansoddi - To compose
Sefyllfa gyhoeddus - A public setting

Aled Hughes
Mae Sian Davies a Dyddgu Mair Williams o Nefyn wedi sefydlu busnes arlwyo pysgod, Môr Flasus, ym Mhen Llŷn ac aeth Aled Hughes draw i gael sgwrs efo Dyddgu am y fenter.
Arlwyo - Catering
Crancod - Crabs
Cwta - A meagre
Gweledigaeth - Vision
Lleihau - To reduce
Cynnyrch - Produce
Penrhyn - Peninsular
Cregyn - Shell
Potes - Soup
Cimwch - Lobster

Bore Cothi
Brenhines Canu Gwlad o Ddyffryn Aeron, Cererdigion oedd gwestai Shan Cothi fore Iau. Recordiodd ei sengl cynta ar label Cambrian yn ôl yn 1969 pan oedd hi’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Aeron, ac mae hi wedi bod yn perfformio ers dros 50 mlynedd . Pan holodd Shan y gantores, Doreen Lewis, roedd hi newydd ddod yn ôl o Ddulyn
Canu gwlad - Country & Western
Disgybl - Pupil
Dulyn - Dublin
Llanw - Llenwi
Sa i'n cofio - Dw i ddim yn cofio
Nefoedd! - Good heavens!
Cyfanwaith - The complete set
Dw i'n dwlu ar - Dw i wrth fy modd efo

Geraint Lloyd
Cafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Trystan Phillips, Pennaeth Ysgol Penparc, Aberteifi ac sydd yn ogystal yn Faer Aberteifi. Un o Rhuthun ydy o yn wreiddiol ond mae o wedi setlo yng Ngheredigion ers 20 mlynedd ac wedi ymuno â chôr lleol.
Cystadlu - To compete
Llwyddiannus - Succesful
Ffodus - Lwcus
Canlyniad - Result
Cynulleidfa - Audience
Dan ei sang - Full to the brim
Gwobr - Prize
Cyn arweinydd - Former conductor
Braint - A privilege

Gwneud Bywyd yn Haws
Nos Fawrth mi gafodd Hanna Hopwood sgwrs efo Sioned Hâf o Gaerdydd am ei thaith colli pwysau, sy’ wedi arwain at drawsnewid y ffordd mae hi’n cynllunio bwyd.
Trawsnewid - To transform
Colli pwysau - To lose weight
Cynllun penodol - Specific plan

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

14 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad