Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 27ain o Fedi 2022

Adweitheg, Ci Therapi a'r Ysguthan!

Radio’r Cymry
Mae hi bron yn ganrif ers i'r geiriau Cymraeg cyntaf gael eu clywed ar y radio. Yn y gyfres newydd, Radio’r Cymry, mae Hywel Gwynfryn yn edrych ar raglenni, digwyddiadau â'r cymeriadau sydd wedi gwneud Radio Cymru yr hyn ydy o heddiw. Yn 1935 daeth Sam Jones yn Bennaeth y ´óÏó´«Ã½ ym Mangor ac roedd hi’n ddechrau ar gyfnod cyffrous iawn yn hanes Radio Cymraeg. Dyma ei ysgrifenyddes, Morfudd Mason Lewis, yn sôn am y dyddiau hynny.....
Canrif - Century
Cyfres - Series
Pennaeth - Head
Parchu - To respect
Peirianwyr - Engineers
Tyrfa - A crowd
Rhaglenni byw - Live programmes
Pennill - A verse
A ddeuai - Fasai’n dod

Aled Hughes
Aeth Aled Hughes draw i Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn i gwrdd â Reuben Hughes, sy’n bencampwr reslo braich! Mae o’n aelod o glwb reslo braich Roar yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin, ac mae o newydd ennill ei gystadleuaeth reslo braich gynta.
Pencampwr - Champion
Am sbort - For fun
Yr amser yn brin - Time was scarce
Penderfynol - Determined
Diogelwch - Safety
Poendod - A worry
Gwarchod - To protect
Rhoi'r fantais - To give an advantage
Cryfder - Strength

Gwneud Bywyd yn Haws
Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth, buodd Hanna Hopwood yn sgwrsio efo Dr Elinor Young. Mae gan Elinor gi therapi o’r enw Tana sydd yn rhan o gynllun Cŵn Cymorth Cariad a dyma hi’n sôn ychydig wrth Hanna am y cynllun…
Cafodd ei sefydlu- Was established
Hwlffordd - Haverfordwest
Disgwyliadau - Expectations
Hyfforddiant - Training
Cyfathrebu - To communicate
Perchennog - Owner
Lles - Welfare
Dychryn - To frighten
Llyfu - To lick

Bore Cothi
Therapi sy’n cael sylw yn y clip nesa ‘ma hefyd, sef Adweitheg, neu Reflexology. Mi roedd hi’n Wythnos Adweitheg y Byd wythnos diwetha, ac mi fuodd Sioned Jones yn sgwrsio efo Shân Cothi am y therapi. Mae Sioned yn dod o Waunfawr yng Ngwynedd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae hi’n byw yng Nghaerdydd ac yn berchen ar gwmni J Reflexology yn y ddinas.
Cysur - Comfort
Adweitheg - Reflexology
Heriau - Challenges
Gradd ychwanegol - An extra degree
Addas - Suitable
Dan bwysau - Under pressure
Egni - Energy
Treulio - To digest
Crediniol - Convinced
Beichiogi - To become pregnant

Bore Cothi
Sut mae gwybod y gwahaniaeth rhwng colomen a sguthan? Dyna oedd cwestiwn Shân Cothi i Daniel Jenkins Jones, a dyma fo’n ateb mewn ffordd ddiddorol iawn.
Colomen - Pigeon
(Y)sguthan - Wood Pigeon
Gwahaniaethu - To differenciate
Turtur Dorchog - Collared Dove
Tlws - Pretty
Coedwigoedd - Woodlands
Yn bla - A plague
Cerddorol - Musical
Atgoffa - To remind
Sill - Syllable

Aled Hughes
Tybed ydy amser yn ymddangos i fynd yn arafach i blant nag ydy o i oedolion? Mae Dr Rhys Morris yn gweithio yn adran astroffiseg, Prifysgol Bryste, ac mae’n grediniol bod hynny’n digwydd. Dyma fo’n esbonio pam mae o’n credu hynny wrth Aled Hughes...
Ymddangos - To appear
HÅ·n - Henach
Atgofion - Memories
Canran - Percentage
Ymenydd - Brain
Golygfeydd - Scenes
Cyfnod llai - A shorter period
Manylyn - A detail
Gweledol - Visual

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

14 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad