Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Hydref 2002

Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg

BETI A’I PHOBOL
Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe’n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae’n sôn am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu’r iaith…
Treulio amser - To spend time
Mynd mas - Mynd allan
Profiad - Experience
Mam-gu - Nain
Cymdeithasol - Sociable
Gorfodi - To force
Cefnogol - Supportive
Becso - Poeni
Trochi - To immerse

ALED HUGHES
Dim ond ers mis Ebrill eleni mae Katie Owen o Ferthyr yn dysgu’r iaith ar ôl iddi gymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith gyda’r DJ Huw Stephens yn fentor iddi hi. Dyma hi’n sgwrsio gydag Aled Hughes…
Gwahanol - Different
Tad-cu - Taid

ALED HUGHES
Cafodd Laura Jones o Gaerdydd ychydig o wersi Cymraeg yn yr ysgol, ond penderfynodd ddysgu’r Gymraeg fel oedolyn er mwyn cyfieithu rhannau o’r Quran. Dyma flas ar y sgwrs cafodd hi gydag Aled Hughes...
Oedolyn - Adult
TGAU - GCSE
Annog - To encourage
Gyrfa - Career
Cyfleoedd Gwaith - Work opportunities
Bwlch - A gap
Dywediadau - Sayings

ALED HUGHES
Beth tybed oedd rheswm Kelly Webb-Davies sy’n dod o Awstralia’n wreiddiol dros ddysgu’r iaith? Fel cawn ni glywed mae hi’n briod â Peredur Glyn awdur nofel o’r enw ‘Pumed Gainc y Mabinogi’ ac mae hi wedi magu ei mab drwy’r Gymraeg. Dyma hi’n sgwrsio efo Aled Hughes...
Ieithyddiaeth - Linguistics
Bathu term - To coin a phrase
Sillafu - To spell
Seiniau - Sounds
Clwt - Cewyn
Llwglyd - Hungry

BORE COTHI
Mae stori Sara Maynard o Sir Gaerfyrddin ychydig yn wahanol. Cafodd hi ei haddysg mewn ysgolion Cymraeg ond ar ôl gadael ysgol collodd hi ei hyder o ran sgwennu Cymraeg. Aeth hi ar gwrs Cymraeg i Oedolion i wella’r sgil yma ac erbyn hyn mae hi’n swyddog iaith ym Mhrifysgol De Cymru.
Ysgol gynradd - Primary School
Ysgol Gyfun - Secondary School
Trwy gyfrwng - Through the medium of
Ysgrifenedig - Written
Sbarduno - To spur

BORE COTHI
Cafodd Shân Cothi sgwrs ddiddorol arall gyda Dickon Morris, cafodd ei eni yng Nghaergrawnt, ei fagu yn Sir Benfro ond sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Mae e’n gweithio fel daearegydd ac yn amlwg mae e wrth ei fodd gyda’r gwaith...
Caergrawnt- Cambridge
Daearegydd - Geologist
Plentyndod - Childhood
Dinbych y Pysgod - Tenby
Diwydiant - Industry
Tirwedd - Landscape
Llethrau serth - Steep slopes
Amrywiaeth - Variety

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad