Main content

Lisa Fearn Pobi Heb Bopty.

Cacen mewn Meicrodon.

Cynhwysion:

2 lwy fawr o olew, a ‘chydig mwy i iro.
5 llwy fawr o flawd codi.
3 llwy fawr o lefrith.
Chwarter llwy de o mixed spice neu cinamon.
8 tamaid o binafal allan o dun.
1 llwy de o siwgr eisin.

Dull:
Iro mwg sy’n gymwys ar gyfer y meicrodon.

Rhoi’r blawd, siwgr, gweddill yr olew, llefrith a’r speisis yn y mwg, yna ychwanegu’r darnau pinafal.

Ei roi yn y microdon a choginio ar ‘high’ am ddau funud, yna gadael iddo sefyll am ddau funud arall.

Defnyddio cyllell fach a mynd o amgylch ymyl y gacen yn y mwg, yna rhoi plât fach ar ben y mwg a’i droi ar ei ben i lawr.

Pan mae’r gacen ar y blât, rhoi ‘chydig o siwgr eisin drosti.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

6 o funudau