Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 15fed 2022

Yma o Hyd, Roy Noble, Meleri Davies, Dan y Lloer, Moron a Clive Edwards

S'mae... Ry'ch chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse ydw i, ac i ddechrau'r wythnos yma...

Aled Hughes - Dafydd Iwan 7.11

Roedd Dafydd Iwan yn westai ar raglen Aled Hughes fore Llun i sôn am Yma o Hyd, y gân sydd wedi ei dewis fel anthem tîm Pêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd. Recordiwyd Yma o Hyd gynta bron i bedwar deg mlynedd yn ôl, ond mae hi wedi cael bywyd newydd yn ddiweddar, gyda recordiad newydd sydd wedi cael sylw mawr y tu hwnt i Gymru.

Tu hwnt Beyond

Wedi hen arfer Well used to

Bodoli ers degawdau Existed for decades

Rhyfedda Strangest

Pwysleisio’r angen Stresses the importance

Ail-greu To recreate

Ers tro For a long time

Ysbrydoli To inspire

Yr alwad The call

Llorio To floor

Bore Cothi – Roy Noble 7.11

...a buodd chwarter miliwn o blant ysgol Cymru yn canu Yma o Hyd fel rhan o Jiwbili yr Urdd, gwych on’d ife? Ddydd Llun hefyd cafodd Shan Cothi gyfle i groesawu y darlledwr Roy Noble oedd yn edrych ymlaen at ei ben-blwydd yn 80. Dechreuodd Roy drwy sôn am ei ddyddiau cynnar yn darlledu…….

Darlledwr Broadcaster

Traffordd Motorway

Bwrw To hit

Yr Hollalluog The Almighty

Camsyniad Camgymeriad

Menwyod Merched

Wejen Cariad

Yn gymharol ddiweddar Fairly recently

Traddodiad Tradition

Beti a’I Phobl – Meleri Davies 13.11

Roy Noble oedd hwnna’n siarad gyda Shan Cothi.
Brynhawn Sul, Meleri Davies o Fenter Ogwen oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl. Mae brawd Meleri, Dewi Prysor, yn nofelydd a gofynnodd Beti oedd diddordeb gyda hi mewn creu llenyddiaeth yn ogystal

Llenyddiaeth Literature

Dihangfa An escape

Rhyddiaith Prose

Cerddi rhydd Free verse

Chwant An inclination

Cyfrwng Medium

Atomfa Nuclear power station

Dylanwad Influence

Amaethwyr Farmers

Ymbelydredd Radiation

Peri dychryn To cause alarm

Dros Ginio - Delyth Wyn a Elin Fflur 8.11

Blas ar sgwrs gafodd Beti George gyda Meleri Davies oedd hwnna, a nawr cawn wrando ar ran o sgwrs cafodd Jennifer Jones ar Dros Ginio gyda Delyth Wyn ag Elin Fflur sef cynhyrchydd a chyflwynwraig y gyfres deledu Sgwrs Dan y Lloer.

Cynhyrchydd Producer

Cyflwynwraig Female presenter

Addas i’r cyfnod Suitable for the period

Dynoliaeth Humanity

Rhyfeddu To wonder

Gwerthfawrogi To appreciate

Cymdeithasu To socialise

Cefnlen Backdrop

Creu’r naws Creating the atmosphere

Caryl - Heledd Fflur 8.11

Ac mae rhaglenni Sgwrs Dan y Lloer wedi bod yn rhai gwych on’d yn nhw?
Heledd Fflur, sydd yn dod o Drewyddel, Sir Benfro yn wreiddiol, yw garddwraig wadd rhaglen Caryl gyda’r nosau, a’r wythnos yma buodd hi’n sôn wrth Caryl am gyfrinachau tyfu moron da

Cyfrinachau Secrets

Dyfrhau To water

Os wedwn i If I say so

Pridd Soil

Parhau To continue

Yn hytrach na Rather than

Diog Lazy

Sychder Drought

Arwynebedd Surface area

Tueddol i Tend to

Ifan Evans – Clive Edwards 10.11

Dyna ni wedi cael gwybod sut i dyfu moron da – dyfrhau o’r gwaelod!
Brynhawn Iau buodd Ifan Evans yn siarad gyda’r canwr Clive Edwards am ei gryno ddisg, neu CD, newydd, Dyddie Da, sy'n cael ei ryddhau cyn bo hir.

Llongyfarchiadau Congratulations

Offerynwyr Instrumentalists

Ffair Aeaf Winter Fair

Hala Anfon

Diniwed Innocent

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

19 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad