Sian Melangell Dafydd Bardd Mis Chwefror Radio Cymru.
Sian Melangell Dafydd Bardd Mis Chwefror Radio Cymru.
Cadw amser, cerdd i Imbolc, Gŵyl y Gannwyll
Nodyn:
Imbolc: 1af Chwefror – 3ydd Chwefror
Yn Iwerddon, roedd Brigit (tarddiad enw Afon Braint, Môn) yn dduwies Geltaidd – daeth Imbolc i fod yn ŵyl y santes Brigid yn Iwerddon: hi oedd duwies barddoniaeth a iechyd, bydwreigiaeth a genedigaeth, cartref ag aelwyd, gefail a gwaith metel. Ganed hi â’i thalcen yn llawn fflamau tanbaid, yn ôl y sôn. Ei gŵyl hi yw Imbolc.
Ond yng Nghymru, mae Gŵyl y Gannwyll wedi ei berchnogi gan gristnogaeth a’i droi’n Gŵyl Fair y Gannwyll. A mae gen i ddiddordeb gwybod mwy am beth oedd hi, cyn y trawsnewidiad hynny, hyd yn oed drwy fenthyg gan ein cefndryd celtaidd, ond hefyd drwy ofyn i’n tiroedd ein hunain, beth wir yw ein perthynas â rwan, y dydd hwn, yn y tymor hwn. Achos dwi’n credu y gallwn greu gwreiddiau newydd. Dod yn ôl at ddefodau newydd. Dod yn ôl at ein coed.
Imbolc: dathlu’r dyddiad hanner ffordd rhwng heuldro’r gaeaf (21 Rhag) a chyhydnos y gwanwyn.
Imbolc: ‘yn y bol’ – gaeleg Iwerddon (‘i mbolg’) – fel y ‘bol’ yn Gymraeg
Cadw amser, cerdd i Imbolc, Gŵyl y Gannwyll
Mae dau beth yn symud. Cysgod y fflam, a’r fflam ei hun.
Y cysgod sy’n symud dros fy nghorff, finnau’n llonydd
a’r dydd ar daith.
Mewn rhai ieithoedd eraill, does dim gwahaniaeth rhwng
tawelwch a llonyddwch. Edrychaf ar y gannwyll
fel mai hi sy’n dal yr aer yn ei le, yn dawel, yn llonydd.
Mae hi’n diflannu gymaint ag y mae hi’n sefyll.
Wedi ei chynnau, nawr mae popeth yn fwy bwriadol
rhywsut – dof yn ôl i hen ddefodau drwy nôl hon,
wic syml mewn cwyr gwenyn. Tra bo coed tu allan
yn ysgwyd eu cen blewog yn y gwynt, yn gwaeddi
eu gaeaf, mesuraf y pellter o’u gwegian nhw
i’m calon i. O’u cwsg i ddyddiau cyntaf gwanwyn.
Mesur – dau funud a saith eiliad yn fwy o olau bob dydd
ar ôl yr unfed ar hugain o Ragfyr. Awr yn fwy o faldod haul
bob mis wedyn. Mwy o wnio, mwy o ddarllen, mwy o anadl effro.
I le’n union aeth munud tywyll ddoe? Ac o le
ddaeth y munud ychwanegol o olau heddiw?
Credai rhai erstalwm mai gaeafgysgu mewn llaid llynoedd
wna gwenoliaid, nid gadael i le pellach. Haws credu’r lleol.
Yno mae munudau’n mudo efallai? Golau’n suddo
i lyn, i bwll, i afon, i ddrych, i mewn i’w hadlewyrchiad eu hunain
ac yn ôl eto.
Ond does dim modd mesur popeth. Myddyliaf eto
am y gannwyll fel cloc larwm y Rhufeiniaid. Nhw
fu’n mesur llosg amser. Un hoelen i bob awr ar
asgwrn cefn cannwyll lonydd, union. Yr haearn yn tolcio
lle byddai chwech o’r gloch, neu saith o’r gloch.
Haearn yn fwy cywir na cheiliog.
O ddeall tân a deall mater, o losgi drwy’r nos
heb awel nag anffawd, byddai, nid toc, ond tinc.
Felly’r unig beth i’w wneud oedd cysgu gyda ffydd
ac un glust effro, nes i’r haearn o’r cwyr, daro derw.
Bydd y golau mor isel ag oen newyddanedig
ar ddiwrnod cyntaf y mis tywyll.
Ond yfory bydd dydd goleuach. Yfory bydd dydd goleuach.
Daw prancio’r glaw, daw chwyn,
daw meddalwch caeau cyfan o ddant y llew,
Daw cloroffyl, daw mydryddiaeth ysgyfarnog i’m calon fesul diwrnod.
Ond yn gyntaf, daw amser i nodi’r hanner ffordd, heno,
a’r gannwyll, mewn sawl iaith, yn sefyll am obaith.