Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Ebrill 2023

Fondue, Milfeddygaeth, Maori, Addurno Cacennau, Crefftio Lledr, U Thant

Cafodd Aled Hughes sgwrs wythnos diwetha gyda Sioned Mair am Fondue, bwyd sydd yn dod yn ôl i ffasiwn y dyddiau hyn. Ond beth yn union yw Fondue? Doedd dim syniad gydag Aled a dyma i chi Sioned yn esbonio…

Toddi To melt

Mae’n debyg Probably

Amrwd Raw

Rhannu To share

Argymell To recommend

Pigion Dysgwyr – Troi’r Tir

Mae’n debyg bod Fondue yn un o nifer o fwydydd y 70au sy’n dod yn ôl i ffasiwn. Cyw iâr mewn basged unrhyw un?
Mae Troi’r Tir ar Radio Cymru yn rhoi sylw i faterion ffermio a chefn gwlad, a’r wythnos diwetha dysgon ni ychydig am waith y fet. Mae Malan Hughes yn filfeddyg yn ardal Y Ffor ger Pwllheli a dyma hi yn rhoi syniad i ni o’r math o waith mae hi’n ei wneud o ddydd i ddydd……

Milfeddyg Vet

Un ai Either

Ymddiddori To take an interest in

Ambell i lo Some calves

Cathod di-ri Innumerable cats

Pry lludw Wood lice

Silwair Silage

Ardal eang A wide area

Pigion Dysgwyr - Maori

Wel am fywyd prysur ac amrywiol sy gan milfeddygon on’d ife?
I Seland Newydd nawr - ble mae Iwan Llyr Jones, sy'n dod o Finffordd ger Penrhyndeudraeth Gwynedd yn wreiddiol, yn byw.
Cafodd Iwan ei ganmol ar-lein am iddo ddewis cael ei seremoni dinasyddiaeth yn Seland Newydd yn gyfan gwbl drwy’r iaith Maori. Dyma Iwan ar Dros Frecwast fore Iau yn esbonio wrth Dylan Ebenezer faint o’r iaith Maori sydd i’w chlywed yn Seland Newydd

Canmol To praise

Dinasyddiaeth Citizenship

Ymateb Response

Trawiadol Striking

Sylw Attention

Tyngu llw To swear an oath

Tebygrwydd Similarity

Pigion Dysgwyr – Nina

Iwan Llyr Jones oedd hwnna’n sôn am y sylw gafodd e ar TiK ToK ar i’w bartner bostio’r seremoni dinasyddiaeth Maori ar Tik Tok.
Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Nina Evans Williams yr wythnos diwetha. Llwyddodd Nina i ennill cystadleuaeth addurno cacennau Salon Culinaire yn Llundain yn ddiweddar. Ynys Môn oedd yr ysbrydoliaeth dros ei haddurniad a buodd Nina’n sôn wrth Shan Cothi sut aeth hi ati i gynrychioli’r Ynys ar ei chacen...

Addurno To decorate

Yn ddiweddar Recently

Cynrychioli To represent

Ysbrydoliaeth Inspiration

Teyrnged Tribute

Golygfeydd hardd Lovely scenery

Arfordir Coastline

Goleudy Lighthouse

Tonnau Waves

Pigion Dysgwyr – Elin Angharad

Ac o un artist at artist arall. Gwestai Beti George yr wythnos diwetha oedd y grefftwraig lledr o ganolbarth Cymru Elin Angharad. Mae gwaith celf wedi bod o ddiddordeb mawr i Elin ers pan oedd hi’n ifanc. Buodd hi’n astudio cwrs celf yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, ac erbyn hyn mae hi wedi cychwyn busnes ei hunan yn dylunio a chreu cynnyrch lledr ym Machynlleth. Dyma hi’n sôn am draddodiad crefft ei theulu

Dylunio To design

Lledr Leather

Gwneuthurwr dreser Cymreig Welsh dresser maker

Anghyffredin Unusual

Diwydiant cig Meat industry

Lladd-dai Abattoirs

Cymhorthydd Assistant

Cymharol fach Relatively small

Gwledig Rural

Dio’m bwys Does dim ots

Pigion Dysgwyr – Kamalagita

Elin Angharad oedd honna ar Beti a’i Phobol yn sôn am ei theulu ac am ei gwaith yn dylunio a chreu cynnyrch lledr.
Yr wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn sgwrs gyda Kamalagita Hughes o Dreorci. Dysgodd Kamalagita Gymraeg ar ôl un noson fythgofiadwy mewn clwb yn y de, ble roedd band Cymraeg yn chwarae. Dyma hi i sôn mwy am y noson honno….

Bythgofiadwy Unforgettable

Egni Energy

Diwylliant Culture

Ieuenctid Youth

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

14 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad