Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 6ed o Fehefin 2023

Amelia Earhart, Nicky John, Iaith ar Daith, Medal Ddrama yr Urdd, Siarcod, A.I.

Pigion Cofio Amelia Earhart 28.05

Gan fod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri wythnos diwetha, y dref honno a Sir Gar oedd thema鈥檙 rhaglen archif Cofio gyda John Hardy. Buodd e鈥檔 chwilio am hanesion o鈥檙 sir a dyma i chi glip bach o raglen 鈥淒doe yn 么l鈥 o 1983 a Gerald Jones, cyn bennaeth Brig芒d Dan Sir Gaerfyrddin yn llygad dyst i Amelia Earhart yn glanio ym Mhorth Tywyn o鈥檙 America yn 1928.

Llygad dyst Eye witness

Arbenigo To specialise

Lodes Merch

Ehedeg Hedfan

Porth Tywyn Burry Port

O bellter From a distance

Pigion Bore Sul Nicky John 28.05
Hanesion diddorol am Amelia Earhart yn fanna gan Gerald Jones .
Gwestai arbennig Iwan Griffiths ar raglen Bore Sul oedd Nicky John, y gohebydd chwaraeon. Mae hi wedi gweithio ar raglen Sgorio ar S4C ers tua 17 o flynyddoedd, a dyma hi鈥檔 s么n am uchafbwyntiau ei gyrfa.

Gohebydd Correspondent

Uchafbwyntiau Highlights

Dychryn To frighten

Gwibio heibio Flying past (lit: darting past)

Rhyngwladol International

Braint Privilege

Ar lawr gwlad At grassroots level

Pigion Shelley & Rhydian Llyr Ifans 27.05

Wel ma Nicky John wrth ei bodd gyda鈥檌 gwaith on鈥檇 yw hi?
Llyr Ifans oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae o鈥檔 cymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith ar S4C ar hyn o bryd yn helpu鈥檙 actor Neet Mohan, sydd i鈥檞 weld ar Casualty, i ddysgu Cymraeg. Buodd Llyr hefyd yn actio ar Casualty ddwywaith ac wedi dod ar draws Neet yn y gyfres...

Cyfres Series

Digwydd bod It so happened

Bellach By now

Awydd Desire

Gweithgareddau Activities

Carchar Rhuthun Ruthin Gaol

Anhygoel Incredible

Synau Sounds

Pigion Bore Cothi Marlyn Samuel 29.05

A tasech chi eisiau gweld pa mor dda yw Ll欧r fel tiwtor mae鈥檔 bosib ei weld yn dysgu Neet at S4C Clic.
Elain Roberts enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd eleni , ond cafodd Shan Cothi sgwrs gyda un o gyn enillwyr y Fedal - yr awdures Marlyn Samuel. Enillodd Marlyn y Fedal yn Eisteddfod yr Urdd Merthyr Tydfil yn 1987.
Ei ffug enw oedd 鈥楽allad鈥 鈥 pam tybed? Wel 鈥榬oedd Marlyn yn ffan mawr o鈥檙 opera sebon Dallas, ond tasai hi wedi rhoi Dallas fel enw basai pawb wedi ei hadnabod 鈥 felly penderfynodd droi鈥檙 enw o gwmpas! 22 oed oedd Marlyn ar y pryd, ac yn gweithio fel Gohebydd M么n a Gwynedd i鈥檙 rhaglen radio Helo Bobol

Ffug enw Pseudonym

Ffodus Lwcus

Y flwyddyn cynt The previous year

Testunau Syllabus (list of competitions)

Cynrychiolydd Representative

Fy nghyfnither My female cousin

Duwadd annwyl Dear me

Rhybudd Warning

Dim siw na miw Not a word

Pigion Siarcod Jake Davies 29.05

Marlyn Samuel oedd honna鈥檔 cofio鈥檙 adeg pan enillodd hi Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd.
Y biolegydd Jake Davies, oedd yn s么n am siarcod oddi ar arfordir Cymru ar y rhaglen wyddonol Yfory Newydd. Mae鈥檔 gweithio i Gyfoeth Naturiol Cymru ac i Sw Llundain, a dyma fe鈥檔 siarad am ei waith yn astudio鈥檙 moroedd ym Mhen Ll欧n...

Cymunedau Communities

Gwaith maes Fieldwork

Abwyd Bait

Mecryll Mackerels

Rhywogaethau Species

Bad achub Lifeboat

Cynefinoedd Habitats

Pigion Sara Gibson 31.05

Hawdd iawn gweld bod Jake yn frwd iawn am ei waith on鈥檇 yw hi?
Bore Mercher roedd Sara Gibson yn cadw sedd Aled Hughes yn dwym. Cafodd hi sgwrs am y pryder yngl欧n 芒 datblygiad deallusrwydd artiffisial. Dyma鈥檙 cerddor Lewys Meredydd yn s么n am effaith AI ar greu cerddoriaeth...

Brwd Enthusiastic

Pryder Concern

Deallusrwydd Intelligence

Creu Creating

Bwrlwm Babble

Yn y b么n Essentially

Ffynnu To flourish

Meddalweddau Software

Cynhyrchu To produce

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

13 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 大象传媒 Radio Cymru,

Podlediad