Main content

Cris Dafis Bardd Mis Mehefin

Cris Dafis Bardd Mis Mehefin

Anorffenedig gan Cris Dafis.

Mae’r gerdd isod yn ymateb i’r newyddion fod llyfr gan Amanda Gorman wedi’i wahardd mewn rhai ysgolion yn Fflorida yn yr Unol Daleithiau.

Daeth Amanda Gorman, sy’n fardd fenywaidd ddu 25 oed, i sylw’r byd pan ddarllenodd gerdd o’i heiddo yn seremoni Urddo’r Arlywydd Joe Biden.

Mae o leiaf un ysgol yn Fflorida wedi gwahardd y llyfr sy’n cynnwys y gerdd. Dyma’r geiriau sy’n sail i’r gwaharddiad:

Somehow, we’ve weathered and witnessed
A nation that isn’t broken, but simply unfinished...

Mae’r ffaith ei bod yn disgrifio America fel gwlad anorffenedig wedi ei ddehongli gan rai fel casineb gan fardd ifanc du yn erbyn pobl wyn America... yn alwad i weddnewid America fel gwlad ddu.

Mae hyn yn dangos mor paranoid mae rhan o gymdeithas America wedi mynd – a’u bod yn fodlon ymateb yn eithafol iawn i UNRHYW ganfyddiad bod yr hen fwyafrif yn colli dylanwad.

Mae’n arwydd o anoddefgarwch a diffyg parch at bobl/cymunedau/diwylliannau gwahanol – ac amharodrwydd i dderbyn newid, i ddysgu mwy, i fod yn llai unllygeidiog. Mae mwy a mwy o bobl yn meddwl mai dim ond nhw – a’u byd-olwg nhw – sy’n iawn. A bod pawb a phopeth arall jyst yn anghywir. Y culture wars ar eu gwaethaf. Gweld hyn yn digwydd yn gynyddol tuag at leiafrifoedd o bob math.

Ac mae’n rhybudd i ni ym Mhrydain. Pan fo America’n tisian, mae’r byd i gyd yn dal annwyd...
Os ydyn ni wir am ddiogelu’r ddynol ryw, y peth pwysicaf gallwn ni ei wneud yw trio deall ein gilydd – nid gwahardd unrhyw farn nad ydyn ni’n ei hoffi...

Amanda Gorman ‘gutted’ after Florida school bans Biden inauguration poem | Amanda Gorman | The Guardian

Anorffenedig

Oes unrhyw un byth yn gyflawn?
Yn fersiwn ddi-fai,
Yn fersiwn ddilychwyn,
Yn fersiwn ddihafal
o’r hyn y dylai fod?

Oes unrhyw un byth yn gwybod pob dim?
Heb angen dysgu na deall mwy,
na thyfu,
na thaclo’r dirgelion?

All unrhyw un byth barhau’n ddigyfnewid?
Gwrthod pob newid?
A glynu fel gelain at esgyrn ddoe?

All unrhyw berson,
All unrhyw wlad,
All unrhyw fyd,
wrthod datblygu?
a mynnu’n ddi-syfl bod popeth yn berffaith,
nad oes newid i fod?

Ac os oes ’na gymuned, neu berson, neu wlad,
neu fro,
neu fyd,
mor gyndyn i dderbyn
bod newid yn normal,
bod newid yn iawn,
bod newid i fod...
bod rhagor i ddysgu...

Y tebyg yw nad oes bywyd ar ôl.
A’r diwedd wedi dod.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

10 o funudau