Main content

Katie Gramich Bardd Mis Groffennaf Radio Cymru.

Petryal o olau ar lawr pren Gwen John ym Mharis

Dyma hi –
yr eiliad
a’i daliwyd dros ganrif yn ôl
ar brynhawn o haf
wrth iddi sefyll
ậ’i brwsh fel cleddyf yn ei llaw
i dreiddio a chipio’r golau.
Yna. Mae’r petryal
yn arnofio fel cwch
ac mae’r haul yn rowlio yn ei flaen.
Llychlyd yw’r llawr pren
ond mae’r petryal yn wynias
ar ei chynfas.
Edrychwn arno
nawr. Yn llonydd.
Yn dal i dywynnu.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

10 o funudau