Main content
Harri Parri: 'Roedd Emlyn Richards yn ymgyrchydd dewr a gonest'
Ganol Awst bu farw y gweinidog a'r ymgyrchydd blaenllaw, Emlyn Richards yn 92 oed.
Yn enedigol o Sarn Mellteyrn yn Ll欧n fe ymgartrefodd yng Nghemaes, Sir F么n.
Roedd yn awdur toreithiog ac yn ymgyrchydd gwrth-niwclear amlwg.
Ar raglen Bwrw Golwg ddydd Sul 27 Awst y Parchedig Harri Parri fu'n ei gofio gan ei ddisgrifio fel "ymgyrchydd dewr, gonest a hamddenol" ac yn sylfaen i'r cyfan roedd ei ffydd Gristnogol.