Hywel Griffiths Bardd Mis Medi.
Hywel Griffiths Bardd Mis Medi.
CEFNDIR Y GERDD
Y cefndir yw bod prosiect ymchwil mawr dwi wedi bod yn rhan ohoni dros y 18 mis dwetha yn dod i ben fory. Dyma wefan y prosiect - https://cuphat.aber.ac.uk/ - bydd gwefan arall broffesiynol yn apelio at ymwelwyr yn lansio fory gobeithio (!). Nod y prosiect oedd trio dod a threftadaeth naturiol a diwylliannol ardaloedd mynyddig yng Nghymru ac Iwerddon i mewn i weithgareddau'r diwydiant twristiaeth ym Mynyddoedd Cambria, y Preseli, Mynyddoedd Wiclo a'r Blackstairs yn Iwerddon. Trwy hyn dwi wedi dod i nabod y ddwy ardal yng Nghymru yn llawer gwell trwy drafod gyda chymunedau, cynnal gweithdai mewn ysgolion a thrwy grwydro. Roedd y ddwy ardal yn agos at fy nghalon beth bynnag am wahanol resymau - roeddwn yn gallu gweld y Preseli o dir y fferm adre, ac yn gweld Mynyddoedd Cambria wrth yrru rhwng Caerfyrddin ac Aber ers dros ugain mlynedd, ac wedi bod yn crwydro ynddyn nhw ers byw yma, ond mae hyn wedi dyfnhau trwy'r prosiect yma.
Enwau
Yn iau, o lle y chwaraeem, gwelem gynt
dri, weithiau, yn ymrithio’n llwyd neu’n wyn;
tri chopa – dim ond trem – ni holem hynt
na chwedl, chwys na chân y llethrau hyn.
A thua’r dwyrain, ar y ffordd i ffair
y Coleg Ger y Lli, Elenydd las
a oedd, er hast, yn estyn, heb ddweud gair,
rhwng bysedd yr afonydd, raean gras.
Eu gweld o bell a wnes, heb glywed byd
o enwau’n cered copa bryn a brwyn,
ond wedi gwrando arnyn nhw i gyd
fe’u dywedaf nhw fel pader, sibrwd swyn
rhag inni’u colli, a thrysori sŵn
Carn Alw, Castell Rhyfel, Nant y Cŵn.