Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref yr 24ain 2023

Cwrdd a Chymry, Rogue Jones, Dysgu Cymraeg, Disney, Taflu'r Ddisgen, Gareth Wyn Jones

Siw Hardson

Ar raglen Trystan ac Emma roedd Siw Harston, sy’n dod o Landeilo yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yn Surrey, yn sgwrsio am y siaradwyr Cymraeg mae hi wedi dod ar eu traws dros y blynyddoedd, ym mhob rhan o’r byd:

Anhygoel Incredible
Cynhesrwydd i’r enaid Warmth for the soul
Y tu hwnt i Beyond

Rogue Jones

Does ots ble fyddwch chi, dych chi’n siŵr o glywed y Gymraeg, on’d dych chi?
Buodd Mari Grug yn holi Bethan Mai o’r band Rogue Jones, ar raglen Ffion Dafis yn ddiweddar, hyn ar ôl iddyn nhw ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, nos Fawrth y 10fed o Hydref. Dyma i chi flas ar y sgwrs:

Gwobr Gerddoriaeth Gymreig Welsh Music Prize
Sylw Attention
Llafur cariad Labour of love
Yn ariannol Financially
Gwefreiddiol Thrilling
Cyfweliadau Interviews
Ffydd Faith
Llinach Pedigree
Rhyfedd Strange
Toddi To melt

Jenny Adams

A llongyfarchiadau mawr i Rogue Jones, yn llawn haeddu’r wobr.
Roedd hi’n Wythnos y Dysgwyr wythnos ddiwethaf ar Radio Cymru a Heledd Cynwal oedd yn sedd Shan Cothi fore Llun Hydref 16, a chafodd hi sgwrs gyda Jenny Adams, sy’n dod o Surrey yn wreiddiol, ond sy’n byw ym Machen, ger Caerffili ar hyn o bryd:

Yn llawn haeddu Wholly deserving
Cyfathrebu Communicate
Swyddogol Official
Profiad Experience
Codi hyder To raise confidence

Disney

Jenny Adams oedd honna – un o’r nifer fawr o ddysgwyr y Gymraeg glywon ni ar Radio Cymru yn ddiweddar.
Ddydd Llun rhoddodd Dros Ginio sylw i’r ffaith bod cwmni Disney yn 100 oed, a Catrin Heledd fuodd yn holi’r Dr Elain Price sy’n darlithio ar ffilm a theledu, am ddylanwad y cwmni ar y byd ffilmiau dros y blynyddoedd:

Darlithio To lecture
Dal dychymyg To catch the imaginagion
Yn ddiweddarach Later on
Cydamseru Synchronize
Arloesi To innovate
Wrth wraidd At the root of
Dyfeisio To invent
Bodoli To exist
Addasu To adapt
Cyfarwydd Familiar
Tybio To suppose

Mai Lloyd

Dr Elain Price yn fanna yn rhoi ychydig o hanes cwmni Disney i ni.
Fore Mawrth wythnos ddiwethaf ar raglen Aled Hughes, Mai Lloyd o Aberteifi oedd yn edrych yn ôl ar ei hamser yn Trinidad a Tobago dros yr haf, yn cystadlu efo’r ddisgen yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad:

Disgen Discus
Y Gymanwlad The Commonwealth
Uchafbwyntiau Highlights
Pobl hÅ·n Older people

Gareth Wyn Jones

A dw i’n siŵr byddwn ni clywed llawer iawn mwy am Mai yn y dyfodol, a hithau’n amlwg wedi mwynhau’r cystadlu.
Gwestai Ifan Jones Evans yn y clip nesa yw ffermwr mwya enwog Cymru, sef Gareth Wyn Jones. Mae ganddo ddilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ddiweddar, mae wedi croesi carreg filltir anferth ac wedi cyrraedd miliwn o danysgrifwyr ar ei sianel You Tube:

Dilyniant Following
Cyfryngau cymdeithasol Social media
Carreg filltir anferth Huge milestone
Tanysgrifwyr Subscribers
Diwydiant amaeth Agricultural industry
Ymdopi To cope

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

13 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad