Main content

Podlediad Pigion Dysgwyr Hydref 31ain 2023

Arogl cynta, partner sgwrsio,dysgu cymraeg,hiliaeth,penblwydd Aelwyd Crymych,y band Mellt

Bob wythnos ar raglen Bore Cothi mae Sh芒n yn sgwrsio efo gwesteion am eu Atgofion cynta. Ac yn y clip hwn mae Tara Bethan yn cofio am yr arogl cynta, ac mae鈥檙 arogl yma wedi gwneud dipyn o argraff arni hi:

Atgofion Memories
Arogl Smell
Argraff Impression
Chwyslyd Sweaty
Dw i鈥檔 medru eu hogla fo I can smell it
Cael fy ngwarchod Being looked after
Golygu鈥檙 byd Means the world
Delwedd Image
Carco To take care of

Tara Bethan yn fanna yn cofio aroglau chwyslyd y reslars!

Fel rhan o Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg mae Aled Hughes wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yng nghynllun Siarad y Ganolfan Dysgu Cymraeg. Yn ddiweddar mi gafodd ei sgwrs gyntaf gyda鈥檌 bartner dysgu, sef Chloe Edwards, sy鈥檔 byw ym Mhenmaenmawr ond sydd yn wreiddiol o Cryw. Dyma Chloe yn s么n am sut daeth hi i ddysgu Cymraeg yn y lle cyntaf:

Gwirfoddoli Volunteering
Unrhyw gysylltiad Any connection
Ymwybodol Aware
Gwatsiad Gwylio
Anhygoel Incredible

Wel mae Aled wedi cael partner Siarad diddorol iawn yn Chloe yn tydy o?

Francesca Sciarrillo oedd gwestai Ffion Emyr, hi oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a鈥檙 Fro yn 2019. Cafodd Francesca ei magu yn Sir y Fflint, ond Eidalwyr ydy ei theulu hi. Mi ddysgodd Francesca Gymraeg fel oedolyn ac erbyn hyn mae hi鈥檔 ac yn gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru, yn hyrwyddo darllen i blant a phobol ifanc.

Hyrwyddo To promote
Wastad Always
Parchu penderfyniad Respect the decision
Cymuned Community
Diolchgar Thankful
Mor raenus So polished
Heriol Challenging
Gwerthfawr Valuable

Ac mae Francesca yn gweithio鈥檔 rhan amser erbyn hyn fel tiwtor Cymraeg i Oedolion.

Yr actores Mali Ann Rees oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Pan oedd hi鈥檔 17 oed mi fuodd hi鈥檔 fyfyrwraig mewn Coleg yn India am ddwy flynedd yn astudio bagloriaeth rhyngwladol. Mae Mali yn un o鈥檙 actoresau mwya enwog Cymru ac wedi actio yn Craith, The Tourist Trap a The Pact. Mae hi hefyd yn un o dair sy鈥檔 cyfrannu i鈥檙 podlediad wythnosol, Mel Mal a Jal, sef tair Cymraes siaradus. Yn y clip hwn mae Mali yn trafod y profiad o hiliaeth gafodd yn yr ysgol ac yn India:

Hiliaeth Racism
Bagloriaeth rhyngwladol International Baccalourate
Beirniadaeth Critisism
Hunaniaeth Identity
Hiliol Racist
Chwerthin To laugh
Trin To treat
Gwerthfawr Valuable

Mali Ann Rees oedd honna鈥檔 s么n am brofiadau o hiliaeth annifyr iawn gafodd hi yn yr Ysgol ac yn y coleg.

Nos Lun y 23ain o Hydref Marci G oedd yn sedd Caryl Parry Jones ac mi gafodd o gwmni Sian Elin Thomas oedd yn s么n am ddathliadau penblwydd Aelwyd Crymych yn 80 oed. Mae Sian wedi bod yn aelod ei hun am nifer o flynyddoedd ac yn y clip mi wnewch chi ei chlywed yn egluro beth yn union ydy Aelwyd yr Urdd...

Aelod Member
Cefnogol Supportive
Traddodiad Tradition
Arwain Leading
Dathliad A celebration
Llywydd anrhydeddus Honorary President
Arddangosfa Exibition
Lluniaeth Refreshments

A penblwydd hapus i Aelwyd Crymych a gobeithio i chi ddathlu mewn steil ynde?

Nos Fawrth ddiwetha ar raglen Georgia Ruth, roedd Glyn ac Ellis o鈥檙 band Mellt yn cadw cwmni iddi hi. Roedden nhw wedi dod adra i Aberystwyth i ymweld 芒 rhai o鈥檙 lleoliadau oedd yn bwysig iddyn nhw fel band, gan gynnwys y sied yng ngwaelod gardd t欧 Glyn lle buon nhw鈥檔 recordio. Yn y clip hwn mae Glyn yn s么n wrth Georgia am bwysigrwydd geiriau eu caneuon, a鈥檙 defnydd o Gymraeg naturiol, bob-dydd:

Lleoliadau Locations
Cymhleth Complicated
Denu mewn To draw in
Pert Pretty
Sa i鈥檔 gwybod Dw i ddim yn gwybod

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 大象传媒 Radio Cymru,

Podlediad