Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Ionawr 2024.

Sioe Banel,Elin Fflur,Drama'r Geni,Cwis,Cofio Dolig,Talwrn,anrhegion dolig.

1 Uffern Iaith y Nefoedd:

Brynhawn Sadwrn diwetha mi glywon ni raglen arbennig o’r Sioe banel hwyliog Uffern Iaith y Nefoedd dan ofal Gruffudd Owen. Y panelwyr oedd Richard Elis, Sara Huws, Llinor ap Gwynedd a Lloyd Lewis. Rownd cyfieithu caneuon oedd hon:

Nid anenwog Famous (not unfamous)
Cyffwrdd To touch
Dychwelyd To return
Aflonyddu To disturb
Nadoligaidd Christmasy
Clych Bells

2 Elin Fflur a’r Gerddorfa:

Dipyn bach o hwyl yn dyfalu caneuon oedd wedi eu cyfieithu’n wael yn fanna.

Ddechrau’r mis, mi gafodd cyngerdd arbennig ei gynnal efo Elin Fflur yn canu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y ´óÏó´«Ã½. Tudur Owen oedd yn arwain y noson a dyma i chi foment emosiynol o’r rhaglen pan mae Tudur yn holi Elin am hanes ei chân fwya poblogaidd, sef Harbwr Diogel – y gân gafodd ei hysgrifennu gan Arfon Wyn, wrth gwrs, a’r gân enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2002:

Cerddorfa Orchestra
Breintiedig tu hwnt Privileged beyond
Crïo Llefain
Cryndod Tremor
Golygu To mean
Oesol Everlasting
Uniaethu To identify
Mor gyfarwydd So familiar

3 Rhaglen Cofio:

Noson emosiynol iawn i Elin Fflur, ac i Tudur hefyd, yng Nghanolfan Pontio ym Mangor.

Nadolig oedd thema rhaglen archif Cofio gyda John Hardy brynhawn Sul, a Noswyl Nadolig yn thema arbennig felly. Un o draddodiadau mawr y Nadolig yn y capeli ydy plant bach yn perfformio Drama’r Geni, ac mae llawer o hwyl wrth i’r plant grwydro o’r sgript weithiau. Dyma glip o ddau weinidog yn cofio ambell i ddrama o’r fath:

Drama’r Geni Nativity play
Gweinidog Minister
Hogyn Bachgen
Gŵr y llety Innkeeper
Yn ffradach Chaotic
Ymgnawdoliad Incarnation
Beichiog Pregnant
Gweddi A prayer
Mo’yn Eisiau

4 Chwalu Pen:

On’d oes yna hwyl efo Drama’r Geni pan mae’r plant yn penderfynu mynd eu ffordd eu hunain?

Un o uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr Ŵyl ydy’r cwis poblogaidd Chwalu Pen, a chafodd y rhaglen ei darlledu brynhawn Gwener diwetha yr 22ain o Ragfyr. Mari Lovgreen oedd yn trïo cadw trefn ar Catrin Mara, Arwel Pod Roberts, Welsh Whisperer a Mel Owen. Dyma nhw’n trio dyfalu’r rownd gyntaf ond cyn hynny, Mari sydd yn ein hatgoffa o’r rheolau:

Uchafbwyntiau Highlights
Darlledu To broadcast
Dyfalu To guess
Atgoffa To remind
Rheolau Rules
Y flwyddyn a fu The past year
Cwblha! Complete!
Cyn seren Former star

5 Ho Ho Hywel:

Mae Mel yn amlwg yn nabod ei chaneuon Nadoligaidd yn tydy?

Ar ddydd Nadolig mi fuodd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis yn mwynhau straeon a chaneuon yng nghwmni gwesteion ar y rhaglen arbennig Ho Ho Hywel. A dyma’r comedïwr Dilwyn Morgan yn rhannu rhai o’i atgofion cynnar am y Nadolig :

Atgofion Memories
Tro ar ôl tro Time after time
Tyddyn bach A smallholding
Ar lethrau On the slopes
Hel tai Going from house to house
Comisiwn Coedwigaeth Forestry Commission
Beudy Cowhouse
Wedi sychu’n grimp Dry as a bone

6 Talwrn Nadolig:

Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy’r Talwrn ac unwaith eto eleni mi fuodd yna raglen arbennig o’r Talwrn – sef Talwrn Nadolig rhwng dau dîm o feirdd amrywiol – sef tîm Bethlehem a thîm Nasareth. Un o’r tasgau oedd sgwennu cerdd ysgafn ar y testun ‘Cinio Nadolig’, a dyma gynnig Iwan Rhys o dîm Bethlehem:

Cerdd Poem
Strach A mess
Fflwr Blawd
Llysfwytäwr pybyr A staunch vegetarian
Ffili treulio Can’t digest
Di dafod Tongueless
Llosg cylla Heartburn
Yn sgit Keen on
Ysgewyll Sprouts
Achwyn Cwyno
Tynn Tight
Egwyddor Principle
Newydd garw Bad news

7 Rhaglen Ifan:

Bydd Y Talwrn yn ôl ar Radio Cymru ar y seithfed o Ionawr am saith o’r gloch efo rhifyn arbennig rhwng Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Maes Garmon.

Yr actores Catrin Mara oedd gwestai Ifan Jones Evans ar ei raglen yn ddiweddar. Sôn oedd Catrin am yr anrheg Dolig gorau a’r gwaetha gafodd hi erioed:

Allweddell Keyboard
Cwningen Rabbit
Wedi gwirioni Wedi dwlu ar
Cwffio Ymladd
Alla i ddim dychmygu I can’t imagine
Hwyrach Efallai
Erchyll Terrible

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

20 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad