Main content

Alan Llwyd, Cofio Leighton

Cerdd gan fardd y mis Radio Cymru, Alan Llwyd er cof am Leighton James

Pan glywais am dy farwolaeth,

er imi dy weld yn chwarae lawer gwaith,

aeth fy meddwl yn 么l

i un g锚m arbennig iawn:

g锚m gyntaf un yr Elyrch yn yr Adran Gyntaf,

a ninnau wrthi

yn chwifio baneri ein dyrchafiad

o adran is.

G锚m hanesyddol oedd honno,

prynhawn Sadwrn olaf Awst

dair blynedd a deugain yn 么l,

a ninnau鈥檔 chwarae yn erbyn Leeds,

un o鈥檙 timau gorau, un o gewri

byd y b锚l ar y pryd,

y Goliath hwn a g芒i fuddugoliaeth hawdd

ar ein Dafydd newydd ni,

neu felly y tybiem.

Prynhawn meddwol oedd hwnnw:

roedd y dorf ar d芒n,

a鈥檔 llafarganu yn treiddio trwy holl Forgannwg,

yn atsain nes cyrraedd Leeds;

a digwyddodd gwyrth,

ni a enillodd o bum g么l i un:

Y cawr ar lawr a Dafydd wedi ei falurio,

a pheniad oedd ei ffon dafl.

Ti oedd y seren:

ti oedd y tu 么l i rai o鈥檙 goliau:

dwywaith y croesaist y b锚l

i Latchford gyrraedd ei darged, deirgwaith i gyd.

Yn union dri a deugain

Awst yn 么l fe鈥檔 gwefreiddiaist ni,

ti a th卯m Abertawe

yn rhoi dinas ar d芒n.

Mae鈥檙 Fetsh wedi mynd erbyn hyn;

meinciau a pharc sydd yno mwy yn coff谩u

maes chwarae鈥檙 Elyrch gynt;

mae鈥檙 llafarganu wedi distewi yn stond;

mae鈥檙 sloganau a鈥檙 llumanau wedi mynd;

mae cliciadau鈥檙 clwydi a鈥檙 cloc i gyd wedi mynd;

mae鈥檙 trafod mawr, mae鈥檙 tyrf芒u wedi mynd,

ac mae Leighton ei hun wedi mynd.

Erbyn hyn mae gan yr Elyrch stadiwm newydd,

ond 鈥檇yw鈥檙 cyffro ddim yno mwy.

Chwiliais am hanes y g锚m ar y we

a chael fideo yno ohoni,

fideo o鈥檙 g锚m fythgofiadwy

honno un prynhawn heulog o haf,

ac am ychydig eiliadau,

siwrneiais am yn 么l mewn amser nes ymuno eilwaith

芒鈥檙 dorf ar y dydd.

Ac wrth wylio鈥檙 fideo o鈥檙 Fetsh

ar y prynhawn tanbaid hwnnw,

caf eto dy wylio di

yn chwarae鈥檙 g锚m, yn ochor-gamu,

yn siwglo 芒鈥檙 b锚l, yn dangos dy sgiliau i鈥檙 byd,

yn driblo o hyd 芒鈥檙 b锚l hon,

y b锚l hon sydd eto o鈥檔 blaenau,

a chaf innau, am ychydig funudau, fy ieuenctid yn 么l.

A bellach mae鈥檙 g锚m hanesyddol honno,

y g锚m chwedlonol honno erbyn hyn,

ar gael o hyd

y tu mewn i amser ac allan o amser,

ac rwyt tithau, Leighton,

yn dal i gynhyrfu鈥檙 dorf

ar fideo鈥檙 cyfrifiadur.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau