Main content
1 mewn 2
Mari Grug a’i gwesteion sy’n trafod clefyd sy’n effeithio 1 mewn 2 ohonom, sef canser. Mari Grug and her guests discuss cancer, a disease which affects 1 in 2 people
Yn Mai 2023 fe gafodd Mari Grug ddiagnosis o ganser y fron a chael gwybod fod y canser wedi lledu i'r nodau lymff a'r afu. Yn y gyfres hon mae Mari’n trafod y diagnosis a’i phrofiadau ers hynny.
Mae ‘na siom a dicter, ond ma’ ‘na chwerthin hefyd a llwyth o gariad wrth i Mari a’i gwesteion drafod diagnosis, chemotherapi, rhannu’r newyddion gyda theulu a ffrindiau, iechyd meddwl, llawdriniaeth a byw gyda chanser.