Main content

Breuddwydio yn Rafah

"Breuddwydio yn Rafah"

Heno, a nunlle yn dawel
fe gaeaf fy llygaid yn dynn
ac wedi gafael ar gudyn o drwmgwsg,
be glywai, o rywle, ond hyn:
S诺n plantos, fel fi, yn sgrechian,
ond nid sgrechian fel fi maen nhw chwaith.
Nid sgrechian a鈥檜 gyddfau yn gignoeth,
a鈥檜 hofnau yn llyncu eu hiaith.
Ond sgrechian am eu bod nhw mor hapus.
Sgrech lawn direidi a sbri.
Sgrechian llawn chwerthin a chariad,
s诺n sydd yn atgof i mi.
Fe鈥檜 gwelaf, trwy amrant breuddwydion
yn canu a dawnsio yn rhydd.
Eu bywydau yn tincial fel grisial,
eu sgrechfeydd yn gyfeiliant i鈥檙 dydd.
Ac os na fydda i yn cael deffro,
os na ddaw, diwrnod arall, i mi,
dwi鈥檔 gobeithio y cai fyw鈥檙 tro nesa
mewn lle tebyg i hwn, efo chi.

Casia Wiliam

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

8 o funudau