Main content
'Mor bwysig siarad,' medd ffermwraig o Dregaron a gollodd ei thad
Roedd y dydd Llun cyntaf o Fedi 2020 yn ddiwrnod arferol ar fferm Pontargamddwr ger Tregaron - Rhodri y tad adref yn ffermio, Si芒n y fam wedi mynd i'r gwaith a'r efeilliaid Mali a Gwawr yn dechrau ar eu cyfnod yn y chweched. Ond dyma ddiwrnod a newidiodd fywyd y merched a'u mam. Ar 么l dod adref o'r ysgol fe ddaeth y merched o hyd i'w tad wedi marw drwy hunanladdiad.
A hithau'n wythnos y Sioe Fawr dywed Mali ei bod hi mor bwysig i siarad a rhannu pryderon, ac er bod elusennau yn annog sgyrsiau o'r fath dywed ei bod hi'n dal yn anodd i nifer - ffermwyr yn enwedig - i siarad am eu pryderon.
Mae modd cael cymorth drwy gysylltu ag elusen Tir Dewi, neu elusen Sefydliad DPJ ac mae cymorth ar gael hefyd ar wefan 大象传媒 Action Line.