Main content

Pentre Rhiwddolion

Iolo Williams y naturiaethwr sydd yn mynd a ni ar daith drwy dirlun Cymru gan ddilyn hen ffordd Rufeinig Sarn Helen.

Mae'r daith heddiw yn mynd a ni i ardal Betws y Coed, ac mae'n ymweld â hen bentref Rhiwddolion.

Fe fydd yn cael ei dywys gan yr archeolegydd Rhys Mwyn, ac mae hefyd yn cael cwmni Dr Leona Huey Darlithydd mewn Treftadaeth, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor a Lowri Ifor, Hanesydd o Gaernarfon.

Yn y darn byr yma cawn hanes pentre’ Rhywddolion, ac fe fydd Iolo yn holi pam ddaeth y Rhufeiniaid i Gymru?

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau